Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/116

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nacaol ydoedd yn fwyaf i gyd. Yr oedd lliaws yn yr ardal a chymaint o'i ofn arnynt, rhag canfod ohono ef hwynt yn myned i mewn i dafarn neu'n dod allan, er i hynny beidio â bod ond ar neges gyffredin, fel yr aeth yn rhyw fwgan lloi yn eu dychymyg hwy. Rhyw gryfder wedi ei ieuo â rhyw lymder a roddai iddo ei ddylanwad. Fe allesid meddwl arno ar dro nad anfoddlon ganddo fuasai edrych ar sychmurnio ambell yfwr cymedrol mewn safle go gyhoeddus ynglyn à chrefydd. Er hynny, pan fyddai'n amcan ganddo ennill rhywun at ddirwest, fe nesae at hwnnw yn wagelog, fel gwr at ei farch yn y maes pan fynn ei harneisio, ac â cheirch yn y fwydar. Enillodd ambell feddwyn at ddirwest, a diwreiddiodd ambell chwynyn yn yr ardal. Enghraifft ydoedd o ddyn wedi ei lyncu yn ei bwnc ei hun. Dirwest oedd ei ddewin, a phan gyhoeddai hwnnw ei Hei, presto! yna fe droai'r byd i'r llun a fynnai, a dyna wialen Aaron yn sarff sêth, a dyna ddwfr y Nilws yn heigio gan lyffantod melynion.

"Pan na welid unrhyw weithgarwch neilltuol mewn blaenor, ac yntau heb fod yn ddirwestwr ychwaith, mi ddywedai Morgan Ifan am dano ei fod wedi celffio yn y sêt fawr,' a galwai wr go gyhoeddus ynglyn â chrefydd, os heb fod yn ddirwestwr, yn 'hen gelffyn taeog.' Annioddefol ganddo'r gwr, dan ba enw bynnag, a dreuliai ei amser, fel Wil Brydydd y Coed Brutus, yn 'hela'i brydiau o dŷ i dŷ gan lwrcan a chlecian,' ac enw ganddo ar un felly oedd gwr y cabarlats neu'r 'hen wn clats,' a chlywais ef yn dywedyd am gyfryw wr, a chawsai hwnnw'r enw o fod yn draflyncwr ambell wydraid o'r ddioden, fod ei ben ef eisoes ymhell yng nghorn gwddf Lucifer.' Nid o ddarfelydd yn gymaint y lluniai efe'r ymad- roddion hyn, ond o deimlad cryf yn erbyn segurdod a diota. Efallai fod eithaf galw am gyfryw ymadroddion, ond elai ef weithiau dros ben y tresi, ac, ar brydiau felly, gallesid yn deg ei gymharu â'r ddelwedd honno a luniwyd gan grebwyll yr athronydd o Ffrancwr a fynnai wisgo pais resog y digrifwas, sef yr aderyn Onocratel, y dywedir am dano fod ei gân nid yn anghyffelyb i frefiad asyn.

"Ond mi ddylaswn gyffwrdd â darllen Morgan Ifan, sef ei ddarllen dirwest, canys ni ddarllenodd nemor ddim arall o'r tuallan i gloriau'r Beibl. Mi gefais gyfle teg i wybod am ei ddarllen hwnnw, heb eisieu ei egluro yma. Yr oedd wedi darllen, mi debygwn, gan mwyaf bopeth a ymddangosodd drwy'r