wasg Gymreig ar ddirwest, megis y ddadl rhwng Morris Hughes a Chaledfryn, cystal a rhyw bapuryn ymhlaid Cymedroldeb, sef yr Adolygydd, a gyhoeddwyd am ysbaid dan olygiaeth Caledfryn, a'r Dirwestwr, a ddeuai allan yn nechreu'r mudiad, ac am ryw gyhyd wedi hynny, a rhai pregethau ar y pwnc gan Christmas Evans a Henry Rees, a darlith gan Robyn Ddu. A'r chwe thraethawd a gyhoeddwyd ynghyd yn 1843 ar rwystr pennaf dirwest. Nid oes gennyf nemor gof am ei gatecism dirwest, yr holai ni ohono yn y cyfarfod plant; a thebygaf am hwnnw ei fod cyn syched a hen leiaden, ys dywedai Betsan Prisiart o'r Dinas Dinlle. [Fe roir rhai enghreifftiau, ond mewn gwirionedd maent cyn syched a checsenas dry as a kex—ac ysgoi gair go werinaidd Betsan.] Yr ydoedd wedi. pwnio i lawr ei gorn gwddwg, nid nepell oddiwrth gychwyn ei yrfa ddirwest, holl gynnwys traethawd Morris Hughes ar Anghymedroldeb, yn dair rhan megis ag ydoedd, sef yr effeithiau, y moddion i'w wella, a'r atebion i wrthddadleuon yn erbyn cynllun dirwest. Wedi hyn, llwy hir fuasai raid fod gan yr anghymedrolwr a fynasai gwynosa â Morgan Ifan. Fe bwrcasodd Flodau Arfon er mwyn y traethawd sydd ynddo ar Gymedroldeb o waith Dewi Wyn. Nid wyf yn tybio ddarfod iddo ddarllen nemor ddim o farddoniaeth Dewi, ond mawr edmygid y traethawd hwn ganddo, a medrai ddarnau ohono ar dafod leferydd. Darllenodd yn o lwyr y pethau mwy diweddar, o leiaf y rhai a gyhoeddwyd yng Ngogledd Cymru. Derbyniodd y Temlydd Cymreig tra parhaodd.
"E fyddai'n darllen yr Alliance a'r Temperance Record ar hyd y blynyddoedd. A darllenodd rai pethau, megis Chwe Phregeth Lyman Beecher, a gyhoeddwyd yn amser yr ymdrech o blaid Cymedroldeb. Tra hoff ydoedd o Hunan-gofiant J. B. Gough a'i Atgofion a'i Areithiau. Gallai adrodd yn rhwydd ar lafar rai darnau o'r Areithiau, megis am y llanciau hynny yn cael eu cludo yn y cwch dros raeadr y Niagara, a'r dernyn, nid llai na hyawdl yn ei ffordd, am y gwydraid dwfr, ac hefyd am y gwr yn ymlid y chwysigen nes o'r diwedd gael ohono'i hun yn disgyn i lawr geudod y llosgfynydd â'r chwysigen ddiflanedig yn ei law. Fe adroddai Morgan Ifan y pethau hyn â chymaint blas ag y clywyd neb yn adrodd y darnau barddonol mwyaf cyffrous neu aruchel. A gwelid ef ar brydiau yn ymgynghori â gweithiau y Dr. F. R. Lees a Dawson Burns a