ddynol. Yr oedd y llais glinc glonc, weithiau'r clinc ymlaen weithiau'r clonc, a chwanegai hynny nid ychydig at yr effaith ddigrif, yn enwedig mewn ambell fan yn yr araeth. Hen lanc ydoedd, ac, fel y marchog crwydrad yn yr hanes, wedi har- neisio'i hun yn erbyn dart ciwpid. Yr oedd ei law ar bob pryd, pan gynhygiai hi i ddyn, yr hyn ni wnae yn aml, cyn oered a chyn llithriced a llyswen bendoll. Fe ymwisgai yn dwt a gofalus mewn côb gynffon wennol a chlôs pen glin a socasau duon silc a het silc, a chadach sidan coch yr India am ei wddf, ond ni welid fyth faneg ar ei law. Cadach llogell gwyn sidan yn gyffredin, ond weithiau sidan o wawr ysgafn felen neu ynte eithaf fflamgoch. Wedi ei dynnu allan o'r llogell fe'i lledid allan yn ofalus. Defnyddid ef i sychu'r ychydig chwŷs oddiar wyneb wedi ei eillio. Ni fyddai fyth annwyd arno.
Fel hyn y gwisgai ar bob pryd yn fy nghof i. Nid ae fyth allan o'r tŷ heb ei ffon glwpa arian. Ni chwyrliai moni o amgylch, ond yr oedd braidd yn hoff o bwyntio à hi at y peth yma neu acw. Ond nid gwiw ymhelaethu rhagor ar y mân-nodweddion hyn, er bod rhagor ohonynt.
"Nodweddiadol ohono oedd ei absen meddwl. Aeth o'r tŷ y bore fwy nag unwaith, fe ddywedir, yn ei gap nos. Ar un tro fe eilliodd un o'i aeliau. E fuasai'r orchwyliaeth honno yn rhoi golwg ddigrif ar unrhyw wyneb; ar wyneb yr hen Ifan yr oedd golwg ddigrif o ddigrif. Nid gwiw lluosogi'r enghreifftiau digrif nad allasent lai na digwydd i wr o'r naws meddwl yma. Eithr yr hyn sy'n hynod yn ei hanes ydyw na ddigwyddodd erioed dro trwstan yn ei hanes mewn cyfarfod dirwest. Yno yr oedd yn gwbl effro, y dyn oddiallan mewn cydgord â'r dyn oddimewn; ac, er dywedyd ohono. bethau rhyfedd weithiau, eto nid dim anghyson âg ef ei hun, a'r ber- sonoliaeth yn ei chyfanrwydd yn loew fel drych grisial.
"Heb unrhyw urddas, fe deimlid yr un pryd y meddai ar ryw neilltuolrwydd go bendant. Un o'i neilltuolion oedd pesychiad mewnol a barai i'w gorff ymlenwi ac i'r wyneb fyned yn ddugoch. Anaml, oddieithr mewn cyfarfod dirwest, lle'r ydoedd o bobman yn fwyaf cartrefol, y gollyngai'r pesychiad allan, ac yna e fyddai fel ci yn rhoi ielp sydyn.
"Selog yn erbyn y ddiod a'r dybaco oedd Ifan Ifan, y ddau yr un faint a'i gilydd. Nid digon ganddo fod pregethwr yn ddirwestwr; rhaid ydoedd iddo fod yn llwyr-ymwrthodwr oddi-