wrth y dybaco hefyd. Fe gadwai yntau, fel Morgan Ifan, rhag gwrando pregethwr nad ydoedd yn ddirwestwr o leiaf. Ond os byddai pregethwr yn rhyw fwy na mwy o ddirwestwr, yna fe ganiateid y bibell i hwnnw, os rhaid ydoedd, gan wincio âg un llygad, a chan gyfrif ei fawr sêl dros ddirwest yn rhinwedd dros ben, a wnae'r fantol yn wastad yn wyneb yr anhaeddiant yn yr ymarfer â'r dybaco. E fyddai ganddo ddywediadau bachog, megis am y pryfetach yn tyllu planciau'r llong dan wyneb y dwfr, nes o'r diwedd, ar hir fordaith, ei suddo hi a'i llwyth. A chymhwysai hynny at yr ymarfer â'r ddiod neu'r dybaco yn eu dechreuad cyntaf a phan geisid eu dirgelu. Mawr ei ddyhead am i bregethwyr fod yn ddilwgr. Meddyliwch,' ebe Ifan Ifan, 'dyn yn pregethu'r Efengyl un funud, fel petae angel gwyn Paradwys, a'r funud nesaf â phibell cyn hanner- llath yn dod allan o'i safn, a photiad baco'r achos gerllaw, a'r funud nesaf wedi hynny drachefn, yn mygu ei hochr hi fel injan ddyrnu!' E fu Ifan Ifan yn darllen yr Anti-Tobacco Journal dros ystod y deng neu ddeuddeng mlynedd efallai y cyhoeddwyd ef, a dangosodd i mi ambell nodiad ynddo o'i eiddo'i hun, canys yr ydoedd efe yn gystal Sais ag ydoedd o Gymro. Mi ddibennodd y misolyn bychan hwnnw ei daith tuag 1876 drwy farw'r golygydd, Reynolds; a gwnaeth Ifan Ifan alar am dano. Fe gyhoeddodd y golygydd hwnnw lyfr swllt mewn amlen, a chryn faintiolus o'i bris, yn dwyn y teitl,-365 Interviews with Smokers, Chewers and Snuff-takers; a darllenwyd ef gan Ifan Ifan o glawr i glawr fel y'm hysbysodd unwaith, heb son am y byddai, i'm gwybodaeth i, yn gollwng ei bîg i mewn iddo yn awr ac eilwaith dros ystod y blynyddoedd, fel iâr ddwr wrth hedfan dros wyneb afon. Yr hen Ifan druan! A gellir casglu na chyfarfu Ifan Ifan â meddyg na phregethwr na thwrne, na neb byw bedyddiol arall, a brofodd yn drech gwr nag ef ei hun mewn dadl ar y pwnc neilltuol yma. Sicr yw nad oedd arno fymryn ofn dadl âg ungwr pwy bynnag ar y pwnc.
"Yn y cof cyntaf sydd gennyf am Ifan Ifan e fyddai'n ymosod yn enbyd ar yr arfer â snwff. Fe gyfeiriai at yr arfer o gynnyg y blwch snwff i'r cwmni, pryd y ceid chwythu a thisian a phesychu, a galwai efe hynny yn 'ddeialog y trwynau.' Ond darfu'r arfer honno yn llwyr yn y man, ac mi fûm yn meddwl am ryw ysbaid mai cuchiau surllyd yr hen Ifan a'i hymlidiodd