Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/126

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwerthin mewnol, canys unrhyw ymdoriad o chwerthin ni chlywid fyth oddiwrtho. E fu'n wahanol yn hynny yn nyddiau ei ieuenctid, fel y clywais. Rhyw chwerthin dan ei ddannedd neu dan ei sgafell a welais i ynddo; ond eto nid dim chwerthin cildwrn ychwaith. Yr hen gono, yr oedd mwy dan dy goryn na feddyliasom, neb ohonom; ac, ond odid, nad oeddit yn well dyn! Eithr rhyw golliadau ar y fath a nodwyd oedd yr achos na fuasai mwy o sôn am yr hen Ifan.

"Ond bid a fo, ac er carthu ac ymdagu, yr oedd awch ar rai o'i ymadroddion. Cof gennyf am dano fwy nag unwaith yn sôn am y ddiod fel y joci a dorrai'r march i mewn er mwyn ei farchogaeth gan y gwr drwg. Hoff ddywediad ganddo oedd mai titotaliaeth oedd y lluman coch, pan chwifid ef, a gyffroai gynddaredd y gethern fawr. Mi a'i clywais ar ryw sôn am leihau tafarnau'r ddinas yn datgan rhwydd-deb cathod Bangor i'r tafarnau a'r tafarnwyr,-nid unrhyw fendith a eiddunid iddynt, bid sicr! Ar dro arall, ar adeg cynhulliad o eiddo'r Temlwyr Da yn y ddinas, fe'i cyffelybai hwy i'r blodau clychau Bangor, â'u sug yn ddeunydd lliw glas nefol ac inc sgrifennu yn llyfrau coffadwriaethau'r amseroedd. Fe soniai am yr yfwyr yn y tafarnau yn cestio fel lloiau mewn llaeth, ac am yr yfwyr boliog fel y gethern gestiog. A chyfeiriai ar dro at y

crochleisiwr, ynfydwr anfwyn,
A baw hyd ei ddwyrudd a'i wyneb yn grêst,
Yn curo'r parwydydd am gwrw'n ei gêst [gwich].

Mi a'i clywais ar yr heol unwaith yn edliw i ryw dri neu bedwar o lymeitwyr, ac enw o grefydd arnynt, na chynwysai eu bywyd ar ei hyd ddim mwy o ffrwyth duwioldeb na chyrn llo! Mi a'i clywais yn dweyd am y sawl a yfai bwyns yn gap nos, y byddai llinynnau cap nos y cyfryw ryw ddiwrnod yn tagu eu corn. gwddwg [cryn wich]! Fe adroddai ar dro linellau ar Syr John Heidden, fel y dywedai, o waith ryw hen fardd:

Rhydd godwm i'r cry',
A'r ffela ar y sy',
Ei yrru i ynfydu wna fo.

"Mi fum yn meddwl am dano, mai peth go hynod ynddo ydoedd na ddywedai fyth air o'i ben ar adeg disgyblaeth am