98 METHODISTIAETH ARFON. Philistiaid, ac am hynny nid yn unig yn oddefol ond hyd yn oed yn ganmoladwy. Yn wyneb rhyw fygwth i gwtogi oriau eu masnach, fe ddywedai fod y tafarnwyr yn 'crio fel buwch'; ac yna, wedi'r cwtogiad, fe ddywedai mai mawr oedd eu 'cri- owtan' yn erbyn hynny. Fe gyffelybai ddirwestwyr llygoer i'r lleuad gyfnewidiol, weithiau'n rhimyn hirgul, weithiau'n han- nerob fel cig moch [gwich]. weithiau'n llawn lloned fel wyneb Mal y Potiau [gwawch], sef y wraig a ddygai'r llestri priddyn o amgylch. Am ddirwest fe ddywedai ei bod yn famaeth cewri, yn ystorfa gweithredoedd da ac yn gyhoeddydd y mil blynydd- oedd. Yr oedd ganddo ambell ddywediad ar y dull yma mor gynnwys a rwbric cyfraith. "Mi a'i gwelais yntau ar dro yn aredig âg anner y Phil- istiaid. Dyweyd ei brofiad yr ydoedd ryw dro yn y seiat, gan adrodd ryw bennill o wersi oddiwrth yr arfer â'r bibell, gwersi a dybiai fod yr arfer yn un eithaf cyfreithlon. Yr oedd y rhai a welai drwy hynny yn cael cryn ddifyrrwch. Darfu i ryw ddau neu dri ohonom, wedi hynny, ddodi'r llinellau wrth ei gilydd, a dyma nhwy: Y bibell wen galchog o liw'r manod pur, A'i barnais hi'n eglur ddisgleirio, Pan gwympo hon unwaith, yn ebrwydd hi dyrr, Cewch weled ar fyrr ei throi heibio; Ac felly 'rym ninnau, er teced ein gwawr, A chymaint bwriadau sydd gennym boi AWI, Un ergyd go fechan a'n tery ni lawr, Meddyliwn bob awr wrth ei smoco. Ond lloercen nid annigrif oedd yr hen Ifan yn ei fannau gwanaf i gyd. "Wrth edrych yn ol fel hyn a'i atgofio synn gennyf braidd na buasai'r hen Ifan yn uwch ei fri gennym hefyd. Rhyw ameu yr oeddid, debygir, nad oedd ei synnwyr ef ddim wedi ei galcio yn gwbl i ben y rhês. A dichon fod rhywbeth ynddo yntau yn cyfiawnhau rhyw gymaint ar dybiaeth felly. Nid ydoedd efe chwaith, fel yr eglurwyd eisoes, big ymhen coes. fel llefarwr cyhoeddus: yr oedd y big yno, ond nid y goes bob amser neu'r rhan amlaf. Meddai ar fwy o lewyrch athrylith na Sion Robyn. Yr oedd ei guchiau, yr un pryd, yn llawn mor wreiddiol a'r sylwadau. Yr hen gorffyn! Fe orweddodd
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/130
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto