Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/131

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

99 yntau i lawr ar ei hydgyhyd, ac er ei ddirwest danbaid, a dyn- nodd ddracht i'w fola o ddwfr y darfelydd, nad eir heibio i'w ffynonnell namyn unwaith mewn einioes, a'i flas a bery yr un a fynner o unrhyw rywogaeth o win, yn ol mympwy'r yfwr pan ydoedd wrthi yn yfed. ARWEINIOL. "Nis gallasai Morgan Ifan, fel y gwelwyd, wneuthur cystal sioi ar y banllawr a'r un o'r ddau eraill; ond gallasai ef ar dro wneuthur yr hyn nis gallasent hwy, sef lladd â'i olwg fel y fad felen gynt. A deallai Morgan Ifan yn well hyd yn oed na Sion Robyn fod eisieu rhyw weithredu ynglyn à dirwest os ydoedd i ffynnu, ac nad yw'r cloron ddim yn tyfu yn ymyl y crochan. A'r lleiaf a ellir ei ddywedyd am Morgan Ifan ydyw ddarfod iddo ddiwreiddio aml chwynoglyn yn yr ardal. Ond pa hûd a'm trechodd fel nas gallaf dewi? Mae atgofio'r hen gyrff yn y dull yma yn creu swn galarnad o'm mewn fel rhuad tonnau'r môr ar draeth y Lafan. O'r argain! chwedl yr hen bobl, beth fydd canfod yr hen Ifan Ifan wedi ymloewi ohono, ac heb y peswch rhwystrus a'r mygdod, heb y wich ddilwydd honno, heb y cyfyngiad ar ei orwel, yn rhydd ymhlith y meirw, fel plentyn rhyfeddod, fel rhyw aurora nefol yr enaid? "Nid oedd yr un o'r tri hyn o'r un ardal a'i gilydd; ond mi gefais gyfle yn ddiweddar i fyned uwchben marw-dywarchen y tri. Wawch a wi! fel yr oedd fy mynwes yn dygyfor gan hiraeth yn y mannau hynny! O'r braidd nad oedd y tri yn ym- rithio o'm blaen fel rhyw Wyliedyddion Pyrth y Dyfnder. "Y mae rhyw wendid mewn achos pan gyflwynir ef ar bob pryd ar y wedd nacäol. Dyma yn hytrach wendid achos dirwest yn y cyfnod y soniwyd am dano. Pan mae'r siarad i gyd ar beidio âg yfed a'r dadleu i gyd a'r sgrifennu i gyd, yna rhy debyg yw hynny i gynllun y gwr hwnnw o Lugado gynt er cynhesu'r awyr ar hafau oerllyd, sef ydoedd hwnnw tynnu'r haul-belydr allan o'r cucumerau, gan selio'r phialau wrth gyn- llun yr hen fferyllwyr gynt, sef fel nad elai dim awyr fyth i mewn hyd nes agorid y phialau. "Ond bid a fo am hynny, fe ae'r dirwestwyr i gyd efo'i gilydd. Yn Abaty Theleme fe wnelai'r mynachod bob un ei fympwy ei hun: fe godai pob mynach o'i wely pan fynnai, fe eisteddai wrth ei bryd bwyd pan fynnai. Ond rhyfedd y sôn, nhwy aent i gyd efo'i gilydd. Nid oedd raid ond i un ohonynt