Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/132

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

100 METHODISTIAETH ARFON. ddywedyd, Gadewch inni yfed, nhwy yfent i gyd; neu ynte, Gadewch inni chware, nhwy chwareuent i gyd; neu ynte, Gad- ewch inni fynd am dro, nhwy aent i gyd am dro. Felly'r dir- westwyr. Dan bob gwahaniaeth plaid, fe'u meddiennid gan yr un ysbrydiaeth. Yr oeddynt i gyd yn un yn y pwnc mawr iddynt hwy. Dirwestwyr yn bennaf dim oedd y gwŷr y soniwyd am danynt. Er hynny, e fu Sion Robyn yn flaenor ymroddedig, a chanlynodd Ifan Ifan y gwersyll yn deg. Gwell fuasai am y tri, fel y cymhellir yn y Rheol Buchedd Sanctaidd, fod rhedfa'r canawl, neu sianel bywyd, â'i wg yn amlycach at y môr an- feidrol, yn lle bod rhyw awgrym megis petae dirwest ei hun y môr a oedd i lyncu'r ffrydiau i gyd iddo'i hun. Eithr fe deimlid gan y gwŷr eu hunain eu bod wedi eu galw i'r gwaith neilltuol o ddiwygio cymdeithas oddiwrth arferion niweidiol. Ac nid oedd yr un o'r tri, debygir ,na fynnai yn ei galon i sianel bywyd, er rhedeg o'i dyfroedd weithiau dan y wyneb, fod à gŵg y rhedfa yn deg a hollol, wedi'r cwbl, at y môr hwnnw y dywed Pantycelyn canfyddid ef ganddo, sef môr y cariad tragwyddol. "Ond fel yr awgrymwyd, yr oedd yr ysbryd heidio wedi eu meddiannu yn fwy na neb arall, oddieithr crefyddwyr ar adeg diwygiad. Fe'i ceid fel haid o gylion, dan yr un cynhyrfiad yn canu neu duchan neu chwerthin eu goreu glas i gyd efo'i gilydd. Fe geir eraill felly ar brydiau, ond nid yn barhaus ar hyd blyn- yddoedd einioes, a hynny ar ryw un pwnc cyfyngedig. Eu perygl yn fynych ydoedd huddoni, fel blawd a gedwir yn hir mewn lle llaith, sef yw hynny magu llwytni a chynron. Byw ormod yn swn ei gilydd a ddarfu hen ddirwestwyr Arfon: nhwy ganasant ormod ar gainc y regen rûg, gan ymateb i'w gilydd fel rhegen i regen. Tebycach oeddynt i'r cylion hynny nag i'r gwenyn sydd am gorff gydol y dydd ym misoedd haf wedi ym- wasgar yma a thraw ymhlith eithin a blodau, ag sydd ganddynt y modrydaf i'w ddangos am eu llafurwaith. Ac fe ddywedir hyn er gwybod o'r goreu fod llawer i'w draethu ar yr ochr arall hefyd. Ond nac anghofier mai'r San Gral yw Cwpan y Cymun Bendigaid. Mae'r Ymchwil Mawr yn terfynu ar yr Eiriolaeth. Gwýr Gethsemane, ebe Evan Roberts, sy'n achub eraill."