104 METHODISTIAETH ARFON. Diau y gŵyr nifer mwy o ddarllenwyr hyn o hanes am Ddadl Bangor arall, ddiweddarach na'r un y cyfeiriwyd ati eisoes, a hynny oherwydd ysgrif gan Lewis Edwards ari (Traethodau Llenyddol, t. 598). E fuasai'r ddadl honno, hefyd, yn fwy marw bellach na Cheubren yr Ellyll, fel nad allasai, yr un Owen Glyndwr guddio'r un Hywel Sele o'i mewn, onibae am yr ysgrif honno ar y Pusiaid Cymreig. Y North Wales Chronicle am Medi 7, 1850, oedd wedi dweyd fod encilio at ymneilltuaeth yn ddrwg mwy nag encilio at babyddiaeth. Rhoes John Phillips ateb i hynny mewn darlith gyhoeddus a droddodwyd yn y Taber- nacl, Tachwedd 19, 1850. E fu ymdrin â'r pynciau yn y North Wales Chronicle a'r Cymro a Haul Brutus o hynny ymlaen hyd ddarlith John Phillips ar Anghydffurfiaeth yn y Tabernacl, Ion- awr 7, 1852. Fe adolygwyd y ddarlith gyntaf gan y Parch. John Owen Thrussington a Nicander a chan Aelod o'r Eglwys, a chan D. Edwards, periglor Ffestiniog, os dyfelid yn gywir. (Cofiant J. Phillips.) Yn ateb i'r sgrifennu hwnnw y traddod- wyd y ddarlith ar Anghydffurfiaeth gan J. Phillips. Adolygiad ar y ddadl hon yw ysgrif Lewis Edwards, a ymddanghosodd yn gyntaf yn Nhraethodydd 1852. Mae ef yn olrhain y diffyg dealltwriaeth i gamolygiad ar yr olyniaeth apostolaidd, megis petae gan ryw weinidog neilltuol hawl yn y pwnc o ordeinio gweinidogion na pherthyn i weinidogion eraill; ac o hynny y tarddai'r gor-bwysigrwydd a gysylltid åg ordeiniad esgobaethol yn yr ystyr eglwysig. Traddododd J. Phillips ddarlith, Rhag- fyr 3, 1856, ar yr Eglwys a'i Sacramentau a'i Swyddogion. Ni wyddis i'r degwm fod yn bwnc dadk gyhoeddus yma, ond fe ymddengys iddo fod yn bwnc dadl gyfrinachol yma hyd yn oed cydrhwng y gwr eglwysig ac aelodau ei eglwys ei hun. Dyma gerllaw lythur oddiwrth J. H. Cotton, y Ficar y pryd hwnnw, yn ymliw âg eglwyswr am na fynn dalu'r degwm. Fe ddengys y llythur ddull gwr eglwysig fel y cyfryw o edrych ar y pwnc, a theifl beth goleu ar nodweddiad J. H. Cotton ei hun, y gwr eglwysig mwyaf ei ddylanwad o fewn y ddinas ei hun a fu yma ers oesau. Fe'i cyfleir air yngair fel y mae wedi ei sgrifennu: "Mr. Owen Owens Pentir. A aethum i gan hynny yn elyn i chwi wrth ddywedyd i chwi y gwir? Gal. 4. 16. Mehefin 28, 1823. Owen, Yr ydwyf yn sgrifennu y llythyr yma i chwi o ran parch i'ch character da chwi, ac yr wyf yn gobeithio
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/136
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto