ARWEINIOL. 105 y bydd i chwi derbyn fy nghyngor gyd ar un garedigrwydd gyda pha un yr wyf yn rhoddi y cynghor i chwi.-Mi a wn yn dda iawn nid oes yn y plwyf yma Gwr gwell, neu un chwaith yr hwn sydd yn magu ei blant yn well, nid oes eglwyswr gwell, neu cymmydog caredicaf yn yr oll wlad, ac yr wyf yn sicr, ni fyddai yn bossibl i berswaedio chwi dwyllo eich cymmydog mewn dim. Ond y mae yn bossibl i chwi ac i finnau bechu o ran anwybodaeth. Ac yr wyf yn meddwl fe ddarfod i chwi bechu felly. Am y trethi 'dwy yn son yn awr. Y mae yn ddyledus ar bawb talu treth i'r llywodraeth ym mha un yr ydynt yn byw (trethi a'r deutics [felly i lawr] o bob math yr ydwyf yn medd- wl). Crist ei hun a dalodd trethi ac a wnaeth rhyfeddod i gyf- lawni ei ddyledswydd. Y mae'n rhaid i bob un sy'n galw ei hun. yn Gristion fod mor berffaith ac yw possibl iddo fod, canys 'pwy bynnag a gadwo'r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o'r cwbl' (Iago 2. 10).-Yr hwn sy'n twyllo y trethwr, neu yn diangc yn hollawl oddiwrth y trethi, nid yw llai euog yn ngolwg Duw a Christ na'r dyn yr hwn a gymmerai afael ar y drysor frenhiniaethol ei hun, canys os yw yn lleihau y drysor ei hun, pa ragoriaeth sydd YM MHA FODD Y mae yn lleihau hi, a'i trwy ddichell neu drais? Ond odid yr ydych yn meddwl (Owen) fod fy reol i o honestrwydd yn rhy gyfyng, ond ystyriwch am un funud ai nid ydych chwi trwy y twyll hwn yn cael rhyw lesad eich hun tra yr ydych yr un funud yn gwneuthur rhyw niweid i eraill? ydych yn ddiammau. Bwriwch gan hynny y moddion allan o'r cwestiwn. Y mae'n rhaid i mi, i chwi ac i bawb talu rhywbeth tuag at gynhaliaeth. y wlad a'r holl fendithion sy'n tarddu oddiwrth y llywodraeth; os yr wyf fi yn naccau dalu fy rhan i, rhaid i rywun dalu fy rhan i, ag nid yw hynny yn iawn, fel hyn yr wyf yn twyllo ac yn coggio y brenhin, y llywodraeth a'm cymydogion. Ac nid yw hynny yn onest. Yr wyf yn sicr ar ol i chwi ystyried y pethau hyn, ni fydd i chwi erioed bechu felly eilwaith. Eich gwir gyfaill a'ch gweinidog ffyddlon, J. H. Cotton." Fe ddarfu Robert Williams y Frondeg, Bangor, gyhoeddi ei Gorff Diwinyddiaeth yn 1831. Traethawd ydyw'r llyfr, yn ol y teitl, ar Etholedigaeth a Rhagarfaethiad a'r pynciau cysyllt- iedig, ac felly ar y pynciau mewn dadl rhwng y Wesleyaid a'r Calfiniaid yng Nghymru ar y pryd; a disgrifir ef gan yr awdwr
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/137
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto