Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/140

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

108 METHODISTIAETH ARFON. un o'r gweithwyr, yn ddarllenwr, ac wedi sgrifennu amryw ddarnau i'r cyhoeddiadau dan yr enw "Bodegroes." Un arall yno oedd Ebenezer Morris, sef brawd Nicander. E fyddai yno ryw ddau weithiwr arall, ond heb aros yn hwy nag ychydig fis- oedd. Fe geid ambell un ohonynt yn wr o wybodaeth. Bu yno un Wesleyad yn ddadleuwr neilltuol ar y "pum pwnc." Fe dreuliai Arfonwyson, a oedd yn byw o fewn ychydig ddrys- au, ac yn aros am apwyntiad i'r Arsyllfa Frenhinol, lawer o amser yma, yr hyn a el i ddangos fod yn rhaid fod yma awch ar rai meddyliau. Bu'r tair blynedd yma, ebe fe, yn well i John Thomas na'r ysgol oreu. Ymhlith pethau eraill, fe gafodd ryw syniad ar bob pwnc diwinyddol, ac agorwyd ei feddwl i'r gwa- haniaeth a oedd rhwng yr amrywiol syniadau ar bob pwnc. Fe dreulid y dydd i gyd agos mewn ymddiddan ar ryw fater neu'i gilydd, a gwneid hynny heb rwystr i'w gwaith oddieithr yn achlysurol am ennyd (t. 20-4). Fe geir yma gipolwg ar y budd y gallasai lliaws o feddyliau ymhob ardal braidd fod yn ei dder- byn drwy gyfrwng y dadleuon diwinyddol. Yn y llawysgrif cerddi y cyfeiriwyd ati, dyma "gân newydd yn erbyn y Methodistiaid." Mae hi'n ddiau yn perthyn i gyfnod y dadleuon rhwng Calfin ac Armin, ac y mae yn atgyfodi rhyw ysbrydiaeth chwerw i'r eithaf a fu ymhlith rhyw rai yn y wlad y pryd hwnnw. Mae'r iaith mewn rhai mannau yn rhy hyll, a'r ysbrydiaeth yn rhy ddigrefydd, i'w dodi i lawr yma. Ond fe'n dygir i'r awyrgylch gan y pethau yma: Gyda'r Calfinistiaid unais ym more f'oes, A'u hathrawiaeth hwy a gredais. Meddwl ddarfum megis hwythau Mae rhyw nifer o bob llwythau A etholwyd cyn bod bryniau. Cyn pen llawer gwelais amgen. Sef gweld llawnder mwy na'r angen-am hyn boed clod, Fod yr iawn wnaed dros bechod . . Dros holl blant yr hen gyfamod. Cês, gan hynny, fy ngwaredu Rhag fath ddiawlig le i sengu. Troi a wnes at Annibyniaeth A chred well yr hen Arminiaeth, Gadael melltith Calfinistiaeth . . Cyffes Ffydd y Pennau Crynion, Gan bob dyn o berchen enaid-sy ddrewdod cas.