Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/142

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

IIO METHODISTIAETH ARFON. creaduriaid wedi eu gadael gan Dduw yw pawb a farnant yn wahanol iddynt hwy. "Y mae eto'n fyw yn ein plith y cyf- rwystra a'r chwerwedd didosturi a fu unwaith yn foddion i lanw carcharau y deyrnas hon â dynion a feiddient gredu a dysgu gwirioneddau esmwyth y grefydd gyntefig." [Efallai fod, ond ymhlith yr ymneilltuwyr yn unig y gwel y Deon yr erlidwyr henafol, cystal a'u holynwyr presennol o ran yr ysbryd. A thebyg fod gwirioneddau gwirioneddau esmwyth" yn gweddu'n well fel esmwyth. Rhoi disgrifiad o'r blaid eglwys.] Y blaid arall ymhlith y datgysyllt- wyr yw'r anffyddwyr. Gŵyr y rhai'n mai drwy ddistrywio'r eglwys y dinystrir amddiffynfa gadarnaf Cristnogaeth. canmoliaeth fawr i'r rhai'n fel dynion galluog, cyson â'u syn- iadau eu hunain. Ofni crefydd yr eglwys y mae y rhai hyn, a dirmygu crefydd yr ymneilltuwyr. Fe saif y pabyddion ym- osodol ar neilltu, mae'n wir, ond gan ddyheu am lwyddiant y datgysylltwyr. Nid yw Eglwys Loegr namyn yr eglwys gyn- tefig; a diwygio honno oddiwrth ryw lygredigaethau a wnaeth- pwyd yn amser Harri'r wythfed. "Os diddymir yr eglwys. genedlaethol, pwy sydd i offrymu gweddi ar goroniad y brenin?" Dau lais y datgysylltwyr: y naill am ysbeilio'r eg- lwys o gariad a'r llall o gasineb. Y gymdeithas ddatgysylltiol wedi ei llunio i'r diben i lygru'r lliaws ac andwyo moesoldeb y clerigwyr a dadansoddi'r eglwys, gan ddinystrio nid yn unig y gyfundrefn allanol, ond y bywyd ysbrydol a breswylia ynddi. Fe ddywedir gan ddatgysylltwyr y dylid datgysylltu'r eglwys. oherwydd fod pobl y ddeunawfed ganrif yn dra drygionus. Syniad ydyw hwn wedi ei seilio ar ffug-hanesiaeth. Mae'n amlwg fod y Dr. [John] Thomas wedi darllen haneswyr cib- ddall, amddifad o bob gwybodaeth a barn hanesyddol. Yr oedd John Hughes [awdwr Methodistiaeth Cymru] yn credu pob gwrachiaidd chwedl a gyhoeddid gan y mwyaf dinôd o'r "di- wygwyr" er eu clodforedd eu hunain. Mae'r hanes hwn yn cofnodi agos i ddeugain o wyrthiau, yr aeth rhagluniaeth allan o'i ffordd ei hun i'w cynhyrchu, er mwyn eu hanrhydeddu hwy. Mae'r chwedlau hyn mor hygoel a chwedlau mynachaidd y canol "Mae'r Dr. Thomas yn credu'r holl draddodiadau pondeuerybwyll hyn." [Mae uchel-eglwyswyr Ysgol Rhyd- ychen, yr hanai y Deon ohoni, yn gyffredin yn credu traddod- iadau cyffelyb, pan ddigwydd y traddodiadau hynny yn y brif eglwys, er ymwrthod ohonynt â'r traddodiadau lluosog mwyaf oesau.