ARWEINIOL. III gwrthun, y fath na cheir monynt braidd fyth yn hanesiaeth eg- lwysig ymneilltuaeth Cymru.] "Os oes drygioni yn cael ei wneud yng Nghymru, y mae'n cael ei wneud gan areithwyr brygawthog sydd yn ymdrechu creu rhagfarn yn y bobl yn erbyn yr eglwys a'i chlerigwyr, er mwyn eu pwrpas eu hun- ain." "Y mae ein cyfeillion y datgysylltwyr yn dweyd y dylai'r eglwys gael ei datgysylltu oherwydd fod eglwyswyr yn y ddeunawfed ganrif yn arfer chware pêl [! Gwir yr achwynid am y chwareuid pêl ar y Suliau.]. Byddai'n dda gennyf fi pe'r ymgymerai ein cyfeillion â chware pêl yn lle chware castiau â'r gwirionedd. Maent mor chwannog i fod yn anghywir nes peri i mi feddwl mai hwynthwy ydyw'r bobl sydd yn arfer ymddang- os yn llys y mân-ddyledion [!]." Fe roddwyd y dyfyniadau yna er dangos dylanwad yr ysbryd sectol ar y llefarwr, ysbryd nad yw'n ymddangos yn ymwybodol ohono yn y gradd lleiaf ynddo'i hun, ond yr ymddengys, i'r gwrthwyneb, yn cymeryd yn ganiataol nas gall fod, yn ol natur pethau, ond mewn ymneilltuwyr yn unig. Fe adawyd darnau helaeth o'r araeth heb gyffwrdd â hwy, gan nad yr amcan yma ydoedd egluro'r ddadl namyn ysbryd y ddadl. Fe geir yn yr araeth wybodaeth helaeth am y pwnc, a llinellau gwasgaredig o ymresymiad, a grym areithyddol yma ac acw, a chyfrwystra yn y cyflwyniad ar y pwnc er ennill cydymdeimlad yr ymneill- tuwyr hynny nad oeddynt eisoes yn "benboeth" yn erbyn yr eglwys. A gochelir yn o lwyr y chwerwder at ymneilltuwyr, ac eithrio'r "brygawthwyr" cyhoeddus, y fath a bâr arswyd braidd wrth ddarllen, a welir yn yr Esboniad ar Mathew (1882) gan yr un gwr. Yr oedd culni ysbryd at yr eglwys wladol, yn tarddu gan mwyaf oddiar anwybodaeth, nid yn anfynych ymhlith ymneilltuwyr o'u tu hwythau drachefn. A'r pwnc yma ydyw fod y culni hwnnw lle ceid ef, yn y naill blaid cystal a'r llall, yn lliwio'r teimlad a'r profiad crefyddol. Ac am gyffro'r ddadl ei hun, pa beth sydd i'w ddweyd wrth edrych yn ol arni amgen na ddywedodd y diafol â'i ellyn ar groen y mochyn,-Mawr wich ac ychydig wlân! Er hynny, ar y pryd, galw yn uchel i'r gâd yr oeddis, a mawr swn cyflafan oedd yn y gwynt: Cyd-boerwn dân o berion dur Ar diroedd maith . . . Mawr gâd ar goedd Pob perian tost yn poeri tân.
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/143
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto