112 METHODISTIAETH ARFON. Ond wele'r gynddaredd yn ymlonyddu ar y môr ddrych! Yng ngweinidogaeth Richard Owen y cafwyd cip o olwg ar dywyniad yr heulwen ar y môr tawdd yn y Cysegr. Nid yw'r neb a gafodd y cip hwnnw fyth yn gwbl yr un un. Bu ef farw yn 48 oed, ac yn ystod y dengmlwydd diweddaf y cafwyd y weled- igaeth yn arbennig yn ei bregethau. Fe dreuliodd rai blyn- yddoedd allan o'r deg yma ger y Penmaenmawr. Eithr yr ydoedd ef yn ystod y blynyddoedd hynny ar deithiau pregethu parhaus yn y wlad, ac yn pregethu deirgwaith y dydd. Fe bre- gethai yn fynych am awr neu ragor, mewn capelau gorlawnion yn aml, a'r gynulleidfa yno ers awr cyn dod ohono ef i mewn, a'r awyr yn boeth ac afiach, ac yntau'n ddyn gwanllyd, caeth ei anadl, a churiad ei galon yn afreolaidd, yn fynych yn wyllt, fel y byddai weithiau yn disgwyl cwympo i lawr yn y pulpud. Ni welwyd mono yn ei nerth mwyaf yn Arfon at ei gilydd, er ddarfod profi ei nerth mewn rhai oedfeuon. Yr ydoedd yn ei rym mwyaf ar ei daith i'r Deheudir ar gychwyn ei yrfa fel di- wygiwr, yn ol barn John Richard Hughes Môn, a oedd gydag ef y pryd hwnnw. Fe deimlwyd llewyrch goruwchnaturiol arno mewn mannau ym Mon, Lleyn ac Eifionydd, a chylch Dinbych a'r Wyddgrug. Y peth a deimlid ynddo ef ydyw gwaelod y cwbl. Pan eir drwy'r ymddangosiadau i gyd, sef golygfa natur, a meddyliau dyn a'i deimlad, a ffurf y credo, a gwasan- aeth crefydd yn gyhoedd neu'n gyfrinachol, yna fe geir cip ar y dirgelwch, sef y gwaelod hwnnw yr ymflagura pob byw a bod oddiarno; ac ar y gwaelod hwnnw yr edrychodd miloedd o bryd i bryd yn ei weinidogaeth ef, mewn dychryn yn unig weithiau, ond weithiau mewn argyhoeddiad neu edifeirwch neu addoliad. Nis gallasai'r weledigaeth honno barhau namyn munud awr. Ond yr oedd ei chael ar gip unwaith mewn ysbryd ffydd yn peri i bob peth ymnewid. A dyma fyd dadleuon, bellach, sef y pethau yr oedd modd dadleu yn eu cylch, yn ymgyfyngu, yn myned yn llawr dan draed, yn llawr toreithiog o flodau a ffrwythau feallai, ond nid y dyfnder odditanodd neu oddiarnodd, ag mae llawr ymddangosiadau yn diflannu yn ei ŵydd. Dyna'r ddadl wedi peidio â'i haflonyddwch; dyna'r weledigaeth, bell- ach, sy'n gwastatu'n llyfn ger gŵydd llygad rhyfeddod, a'r lluniau a'r lliwiau yn fflachio oddimewn yn y môr ddrych. Ac fe ddaw'r meddwl yn ol i'r fan yma o bob man: yma y dadleuon. a baid â'u cyffro. yma yr ymorffwysir oddiwrth ludd y meddwl.
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/144
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto