113 Hwy a edrychasant, a goleuwyd hwy, ac ni chywilyddiwyd eu hwynebau. Weithiau, er yn lled fynych hefyd, y byddai gwas Duw yn ymsefydlu yn deg yn y fan yma. E fyddai ambell dro fel gwr yn palfalu ar bared. Ni feddai ar nemor ddysg, na nemor allu ymresymiadol, er meddu ar ddarfelydd eithaf byw- iog. Pan ddisgynnai'r goleu ar luniau Darfelydd nhwy dywyn- nent fel â goleu'r trydan. Nid oedd lluniau darfelydd neb i'w canfod mor bell oddimewn yn y meddwl. Yn rhyw fannau yn ei bregethau, neu yn rhai o'i bregethau, a phan fyddai'r llewyrch arno, e fyddai ei feddyliau yn glysion fel rhosod y wawr, a lunir ac a adlunir gan angylion wrth eu mympwy grasol eu hunain. A'r cyfryw ryddid a hynny a deimlid ar rai prydiau ynddo yntau, gan fel y byddai'r lluniedydd mewnol anweledig yn cyf- leu ei feddyliau a'u hail gyfleu mewn rhyw chwareuaeth ysgafn, hyfrydlon. Yr Efengyl ar gyfer byd euog oedd ei bwnc, nid ar gyfer y saint. Y pethau a glywyd, ac y teimlwyd oddiwrth- ynt ar brydiau, er dyddiau mebyd, a oedd yn ymddeffro o'u hûn; ac am fod y gynulleidfa yn o lwyr ar y clawr yma, yr yd- oedd hithau gyda'i gilydd yn ymddeffro, a'r teimlad o hynny weithiau, drachefn, a fwyhae yr effaith yn annhraethol. Teler ei ymweliad ag unrhyw fan ydoedd wythnos o weddiau ymlaen llaw yn y lle hwnnw, a gweddiai yntau ei hun yn ddibaid. Yn blentyn fe'i ceid ar ei ben ei hun; ar ei ben ei hun y ceid ef yn ddyn. Fe'i neilltuwyd i wasanaeth y Cysegr. Fe gollodd rai pethau gwerthfawr a dymunol er mwyn i eraill drwyddo ef dderbyn pethau mwy gwerthfawr, mwy dymunol. Gwr anfon- edig ydoedd, megis y dywedodd William Blake am Edward Irving, er na allesid chwanegu ei fod yn wr wedi ei ddonio yn uchel, mwy nag y gallesid awgrymu, megis yr awgrymodd Blake am Irving, ddarfod iddo fyned ymhellach nag y danfon- wyd. Fe aroswyd fel hyn gydag ef yma ar sail ei breswyl am flynyddoedd yn Arfon, ac ar sail ei ymweliad â'r rhan fwyaf o'r eglwysi; a hynny er mwyn dadlenu mymryn ar y gwaelod hwnnw o ddirgelwch y gorffwys ein holl hyder arno. Yn rhyw gyffyrddiad â'r dirgelwch yma y mynnem ni roi ein hyder, nid mewn ffurf na threfniant na thraddodiad. Os na ddadlennir y dirgelwch hwn yn ein plith, nid oes inni hanes fel eglwysi. 8M ARWEINIOL.
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/145
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto