E fu i bregethu ymhlith y Methodistiaid ddylanwad neilltuol, drwy gyfrwng cyfarfodydd arbennig cystal ag ar ddull llai cyhoedd. Fe gynhaliwyd y Sasiwn gyntaf ym Mangor yn 1832, a'r gyntaf yng Nghaernarvon yn 1794. Mae son am Sasiwn yn Llanllyfni yn 1769. Yr oedd Sasiwn diwygiad '59 yn enghraifft nodedig o ddylanwad pregethu. Mae cyfeiriadau wedi eu gwneuthur eisoes yn hanes eglwysi cylch Bethesda at y pregethu hwnnw; ond gellir chwanegu rhyw gymaint yma. Yr oedd cynnwrf y diwygiad wedi crynhoi ynghyd dorf anferth, y fwyaf a welwyd ym Mangor. Y pregethau y bu mwyaf o sôn am danynt ydoedd eiddo John Jones Blaenannerch yn oedfa'r bore ac eiddo Owen Thomas yn oedfa'r prynhawn. Testun John Jones ydoedd Esai xxviii. 16: Wele fi yn sylfaenu maen yn Seion. Gwr corffol, rhadlon, golygus oedd John Jones, ac a llais o gylch mawr ganddo, ac ar yr un pryd yn dreiddgar a melodaidd. Yr ydoedd wedi ei orchfygu braidd gan bryder yn wyneb y meddwl am bregethu i gynhulliad mor fawr. Pan ddaeth i olwg y dorf fe ymollyngodd ei liniau ar risiau'r banllawr. Ar hynny, aeth Dafydd Jones (Treborth) ato, gan ei gofleidio yngwydd y dorf. Am y deng munud cyntaf o'r bregeth fe grynai llais y pregethwr, ond wrth fyned ymlaen fe ennillai hyder, ac fe ymddyrchafai ei lais, ac yn y man yr ydoedd fel sain utgorn yn uchel a, hirllais. Meddyliau syml yn ymagor allan mewn bloeddiadau digymar oedd arddull y pregethwr; ac yng ngwres yr adeg honno yr oedd y bloeddiadau yn gorlenwi meddyliau ac yn rhwygo teimladau. Grym y pregethwr oedd mewn pwysleisio'r un geiriau mawrion yn y testun mewn bloeddiadau cyrhaeddgar, gan eu hail-adrodd drosodd a throsodd; ac ar gyfer y cynnwrf oedd eisoes yn nheimlad y dorf nis gallasai'r un dull fod mor effeithiol. Fe ddywedir fod y Deon Howel yno'n gwrando, a darfod iddo ddywedyd wrth y Parch. E. Thomas Tregarth, mai dyna'r oedfa fwyaf bendigedig y bu efe ynddi erioed, sef pregeth John Jones a feddylid, debygir. Yr oedd Henry Rees yn pregethu ar ei ol ar II. Corinthiaid v. 14, 15: Canys y mae cariad Crist yn ein cymell ni. Yr oedd corff y bobl yn barnu am dano ef fod ei wyneb yn erbyn y diwygiad, a hynny am ei fod yn arfer cymhellion a rhybuddion i ochelgarwch rhag ymollwng yn ormod gyda'r teimlad, ac i weini iawn ymgeledd i'r dychweledigion. Ni lwyddodd
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/146
Prawfddarllenwyd y dudalen hon