115 efe'r tro yma i ymaflyd yn effeithiol yng nghalon y dorf. Er hynny, fe deimlid ei bregeth gan liaws yn dra chyfaddas i'r amgylchiadau, ac yn dra effeithiol iddynt hwy. Fe ddywedai Benjamin Hughes Llanelwy wrth yr ysgrifennydd mai'r ail bregeth, iddo ef, oedd o lawer y fwyaf effeithiol. Yr oedd pregethu Henry Rees yn fynych, ac felly'r tro hwn, yn ddiau, i'r sawl oedd mewn cyd-darawiad teimlad âg ef, fel cleddyf llym, dau-finiog, yn barnu meddyliau a bwriadau'r galon. Pe buasai'r teimlad yn ddigon nawsaidd e fuesid wedi cofleidio cenadwri'r ail bregeth cystal a'r gyntaf. Yn lle hynny, fe ddywedid gan lawer fod y nefoedd yn gwgu am nad oedd yr ail bregethwr mewn cyd-darawiad teimlad â'r diwygiad. ARWEINIOL. Yr oedd Owen Thomas yn pregethu yn y prynhawn ar II. Corinthiaid vi. 1: Na dderbynioch ras Duw yn ofer. Y ddau gyfnod mwyaf effeithiol ym mhregethu Owen Thomas, ebe'r blaenor craff, Edward Griffiths yr Wyddgrug, oedd tymor diwyg- iad '59 a thymor ymweliad cyntaf Moody a Sankey â'r wlad hon yn 1874. Ac yr oedd ei bregeth y prynhawn crybwyll- edig yn un o rai hynotaf ei oes. Colyn yr ing yn y bregeth, yn ol Edward Hopwood, gwr craff yntau yn ei ffordd go hynod ei hun, o Buckley, a oedd yno yn gwrando, oedd y llinell gyntaf o bennill a adroddwyd yn llawn,-Cês ddwr o'r graig i'w yfed. Yr oedd y pregethwr wedi myned dros y pennill â'r bwrdwn, Ond ofer fu! Ond yna aeth drosto drachefn â'r bwrdwn, Nid ofer fu! Ac yn y troad ar ei lais treiddlym ar yr ail-adroddiad hwnnw yr ymaflodd y bangfa yn y fynwes, a thorrodd allan yn waeddi na chlywodd Edward Hopwood mo'r cyffelyb. (Cofiant Dafydd Morgan, t. 409. Y Tabernacl, t. 116. Cofiant Henry Rees, t. 677. Cofiant Owen Thomas, t. 458.) Anfynych, mae'n debyg, y bu pedair pregeth olynol i'w gilydd mor afaelgar ag oedd pedair pregeth ar faes y Sasiwn ym Mangor yn 1874. (Y Dr.) John Hughes oedd y blaenaf o'r pedwar, sef yn yr oedfa am ddeg. Yr oedd ei lais ef y bore hwnnw yn ei oreu; yr ymdrin â'r pwnc yn ymddangos yn feis- trolgar neilltuol, mor bell ag y gallai un rhy anaddfed i fyned i mewn yn deg i'r ystyr farnu; y pwnc ei hun yn ddyrchafedig ac ysgubol, er wedi dianc o'r cof; a'r cymhwysiad ar y diwedd yn amlwg yn dod adref yn effeithiol at y bobl addfetaf yn y lle.
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/147
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto