117 pregethwr. A chymhwysai ato'r geiriau: pob pant a lenwir a phob mynydd a bryn a ostyngir. Ac yna fe gyfeiriodd at ei bregeth ar "droi a byw," yr unig un y cyfeiriodd ati, fel eng- hraifft o ddull y pregethwr yn apelio yn uniongyrchol at y gyd- wybod i'r amcan o droi'r ewyllys; ac yn ei ddull hwnnw yr oedd pawb o'i wrandawyr ar yr un gwastad ger ei ŵydd. Yr oedd dagrau yn llais y siaradwr,-peth anarferol iddo ef,-wrth at- goffa'r geiriau, Troi a byw. Dros ben hyn gellir dweyd ddar- fod i'r pregethwr hwn adael ei bregeth yng nghof y gwranda- wyr drwy gyfrwng llygad a chlust. Fe dynnai lun yr hyn. fyddai ganddo o flaen y llygad â'i ystum, a glynai'r testun a phwnc y bregeth yn y cof yn ei waeddiadau. Ac wrth i'r pwnc aros yn y cof fe ail-gyneuid ei ddylanwad ar y meddwl o bryd i bryd dros ystod oes. Yr oedd y dorf yn fawr y bore; yr oedd yn fwy o lawer y prynhawn. Gwyr o Fôn oedd y ddau bregethwr! Yr oedd Hugh Jones yn cael rhai oedfeuon y blynyddoedd hynny à sôn am danynt. A dyma'r tro cyntaf iddo, yn 44 oed, ar faes Sasiwn Sir Gaernarvon; ac yr oeddis ym Môn yn teimlo gradd o siomedigaeth braidd oherwydd yr oediad hwnnw, fe ddy- wedid. Myned i Fangor, ynte, i'w glywed a'i gefnogi. Yr oedd y Dr. William Roberts yn 64 oed, ond heb gilio eto o'i anterth. Gwr ydoedd ef, cyn myned ohono i'r Amerig, a oedd yn fwy poblogaidd ym Môn na neb o'i phregethwyr ar ol ymadawiad John Elias; a "John Elias bach" y gelwid ef y pryd hwnnw. Yr ydoedd yn awr ar ymweliad â'r wlad hon, a mawr ydoedd dyhewyd lliaws o'i hen wrandawyr am ei glywed drachefn, yn enwedig ar faes Sasiwn Bangor. Heblaw hynny, yr oedd y tywydd yn braf odiaeth. Cydrhwng popeth, hon, mae'n debyg, oedd y Sasiwn fwyaf a fu ym Mangor ar ol Sasiwn '59. Yr oedd y maes, mor bell ag yr oedd yn y golwg, yn llawn drosto; ac yr oedd llanciau yn eistedd yn un rhes ar y wal gyferbyn â'r banllawr, o'r naill ben i'r llall ohoni. Ond dacw Hugh Jones gerbron. Gwr heb fod o'r taldra cyffredin yn gwbl, ond yn llydan ei ysgwyddau a chydnerth. Prydwedd amlwg, cryf, a'r pryd yn dywyll. Llygaid crynion duon o dan yr aeliau trymion, duon, a'r blewiach wrth fôn yr ael yn taflu allan. Golwg prudd, difrif, oddieithr pan oleuid y wyneb gan gysur yr addewidion, ac yna fe saethai pelydryn o'r llygad du heibio'r blewiach duon hynny ym môn yr ael, fel pel- ARWEINIOL.
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/149
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto