118 METHODISTIAETH ARFON. ydryn o'r haul heibio ymyl cwmwl pygddu. Nid digwyddiad mynych mo hynny ychwaith. Llais cryf, dwfn, a melodaidd, yn enwedig yn rhyw droad dyrchafedig achlysurol iddo, ac fel y cyrhaeddid at uchel bwnc y bregeth. A dyna'r pwnc y pryn- hawn yma, sef yr addewidion: Yn yr hyn Duw, yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gyngor, a gyfryngodd drwy lw (Hebreaid vi. 17-20). Yr oedd y pregethwr yn symud ymlaen yn bwyllog, er yn amlwg yn cydio o ddifrif yn ei bwnc y tro yma, ynghanol vr hamdden prudd i gyd. Dyma addewid ar ol addewid, pethau mawrion yn eu hamser, i'r ddynoliaeth yn gyntaf, wedi hynny yn gyf- yngedig i dŷ Israel, ac yn fwy pendant o gymaint a hynny- addewid ar ol addewid! Disgwyl mawr am y cyflawniad, ac oes ar ol oes yn myned heibio, a dim yn y golwg. Hirfaith y disgwyll-oes ar ol oes yn myned heibio, a phethau mawrion yn hanes y genedl fel yn golygu cyflawniad, ond siomi wedyn, a dim yn y golwg. Ond rhyw fore, wele'r gwylwyr yn canfod hen long yr iachawdwriaeth, dan lawn hwyliau, yn llwythog o'r addewidion, ar y cefnfor draw, yn dynesu, dynesu! A chyda hynny, yn yr olwg ar y llong ar y cefnfor, dyna ru isel drwy'r dorf ar y maes. Bellach yr oeddid ar ben y golwg: dim bellach ond edrych o amgylch a mwynhau! Fe ddywed- odd amaethwr o Leyn na welodd efe mo debyg y pregethwr yma am fyned i gesail cynulleidfa. Mae efe'n golygu myned y tro yma. Dyna ddadlwytho llwyth yr hen long yn y porth- ladd. Dyna'r angor wedi ei fwrw hyd at yr hyn sydd o'r tu- fewn i'r llen. A dyna'r llw bellach yn cadarnhau'r addewid. Mae gennym ni bellach glaim ar y Duw mawr. A dyma'r ar- wydd o'r hwyl uchel,-y geiriau Saesneg yma, fel cadachau yn chwifio yn yr awel. Wele, y mae'r addewid a'r llw gennym ni ar ddu a gwyn-in black and white! Mae Duw in duty bound i gyflawni ei holl gyngor bellach. A dyma'r cymhwysiad yn y "Peidiwn â thaflu angor ein gobaith i lawr i fôr tym- hestlog y byd hwn." Yr oedd y pregethwr a'i law chwith yn cydio gafael yng nghloriau'r Beibl mawr, a'i law dde dros ymvl yr astell, ac fel yn dangos y môr tymhestlog oedd i waered,- a'r geiriau "môr tymhestlog" yn hirsain ddynwaredol dodd- edig. Yr oedd y môr tywyll tymhestlog yn y golwg i waered o flaen y llygaid. "Paham y taflwn i o yma ?" yn hirsain gwyn- fanllyd-"pa-ham y taflwn-i o-ym-a?" a'r teimlad cwynfan-
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/150
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto