ARWEINIOL. 119 llyd yn llenwi'r llaciau nes gwneud yr ymadrodd yn un holiad awchlym. "Nid oes dim iddo afael ynddo yma," yn hırsain gwynfanllyd doddedig. Ac yma yr oedd y pregethwr yn ym- godi ac yn edrych tuag i fyny,-"Taflwn ef at yr hyn sydd o o'r tufewn i'r llen," mewn llais cryf, cyrhaeddgar, a'r wên bellach yn pelydru, a'r gynulleidfa yn ymateb mewn boddhad a llawen- ydd ac ebychiadau gorfoledd. A dyna'r pregethwr yn ym- atal ychydig, ac fel yn cymeryd ei anadl ato. Ac yna: " 'Roedd arna'i y'ch ofn chi ar y dechre yma," yr ofn yn hirsain-"y'ch o-o-fn chi." A'r gwr prudd, nid anhawdd credu hynny. Yr oedd y gynulleidfa eisoes wedi ei llwyr feistroli, ac yr oedd y cyfaddefiad yma oddiwrth ei meistr yn creu boddhad, ac iasau llawenydd yn rhai. Dyma'r pregethwr, ynte, yn deg, yng nghesail y gynulleidfa! A dyna ef yn myned ymlaen yn siriol ac ysgafn: "Ond 'does arna'i mo'ch ofn chi rwan." Mae ef a'r gynulleidfa yn un yng ngorfoledd yr addewidion. A dyma wr byr ar ei ol, ond cydnerth yntau. Dim prudd- der yma, dim o'r pwyll arafaidd a'r hamdden, a'r geiriau yn llusgo yn hirsain! Sioncrwydd sydd yma fel eiddo'r ceiliog rhedyn. Er hynny, dim brys ychwaith, dim cyflymu ar i waered. Sir Fôn sydd yma. Ond dyn byw, byw i gyd ym mhob cymal a migwrn, er hynny, ac ar ymaflyd yn ei waith â'i holl enaid. Llai urddas o ryw gymaint nag yn y pregeth- wr o'i flaen, a llai mawredd. Beth er hynny, mae'r dyn yn fyw drwyddo draw, a hunanfeddiant perffaith hefyd, hunan- hyder perffaith, er heb hyfdra; ac mae pawb wrth eu bodd. Nid yw nerth ysgytiol y pregethwr o'r blaen wedi tarfu dim ar y pregethwr yma. Onid oes ganddo yntau ei genadwri cystal a'r llall? Clywch, dyma hi:-Wele Oen Duw yr hwn sydd yn tynnu ymaith bechodau y byd. Llais cryf, eglur, hyglyw it bawb drwy'r dorf; ac, fel yr ä'r pregethwr yn ei flaen, yn codi yn uwch, uwch, yn glaer fel cloch, yn toncio fel cloch, ac, wedi ymsefydlu ohono'n deg uwchben ei bwnc, fel cloch Par- adwys yn galw, galw, a gwiw-ddwys alw. Syml yw ei feddwl: diwinyddol, mae'n wir, sef y dull pynciol ddiwinyddol, eto'n eglur i bawb a threfnus. Yr oedd y rhagarweiniad dan dri phen, a'r prif bennau yn dri, a thri phen i bob un o'r rheiny. A galwai'r pregethwr sylw at hynny, gan fynegi mai Pregeth y Trioedd oedd y bregeth. Y pregethwr ei hun a phawb yn hoff- ach o'r bregeth. Dyna beth ydyw hwyl mewn pregeth! Nid
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/151
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto