Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/154

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

122 METHODISTIAETH ARFON. un distawrwydd a hwnnw, pryd y dywedir y bu gosteg yn y nef, neu ar ymyl y ddalen distawrwydd, megis dros hanner Yr oedd un gwrandawr o leiaf yn canfod ar yr awyr o flaen y llefarwr, yn awr ac eilwaith yn ystod yr ysbaid hwnnw, ei lun ef ar ei liniau ynghanol llawr ei ystafell, fel y tebygid, ond heb wrthrych arall yn y golwg namyn y llawr; ac mae'r argyhoeddiad wedi aros nad oedd y rhith hwnnw namyn cysgod y sylwedd gwirioneddol, a gludid am ryw hyd ynglyn wrth y sylwedd, sef personoliaeth y llefarwr, gan rym yr ynni ysbrydol a oedd mewn gweithrediad yn y gweddiau hynny. Fe safodd mewnol ddyn y galon yn y gwrandawr am ysbaid y pryd hwnnw yn ei ŵydd ei hun yn nrych ysbrydol y meddwl. Dyna atgof a erys byth; dyna lun y dyn yn ei ŵydd yn y dirgelwch yn dyst o'r Sanctaidd Sancteiddiolaf. Fe ddywedai Richard Jones y blaenor yn Llaneurgain ddarfod i Thomas Charles Edwards ddywedyd, rywbryd ar ol y gwasanaeth, mai dyna'r "enein- iad grefaf" y bu efe erioed yn dyst ohono. "Eneiniad gref- af" oedd y ffurf ar yr ymadrodd fel yr adroddid, a gadewir iddo sefyll felly yma. Yr oedd Thomas Charles Edwards yn eistedd ynghongl y sêt fawr ar y dde i'r llefarwr, ac heb dynnu ei lygad oddiarno yn ystod yr amser crybwylledig, a'i wynepryd yn cynneu gan fflam fewnol. Yn y cyfryw ysbeidiau a hynny yr agorir y nefoedd yn ysbryd dyn. E flagurodd cymdeithas o fewn y cylch yma mewn lliaws o wyr o ddefnyddioldeb neu o ddawn, heblaw a sonir am dan- ynt ynghorff yr hanes hwn; a gallasai rhyw gyfeiriad at rai ohonynt fel enghreifftiau fod yn gynorthwy pellach i leoli'r hanes yn ei berthynas à phersonau, cystal ag i egluro rhyw gymaint yn ychwaneg ar ysbrydiaeth ac awyrgylch tymor yr hanes. Hysbys yw fod y dylanwadau a gartrefa mewn lleoedd hyd yn rhyw fesur i'w canfod yn y gwŷr arbennig a fu o bryd i bryd yn preswylio yn y lleoedd hynny; ac y maent hwythau drachefn yn eu tro yn dylanwadu hyd yn rhyw fesur ar y lle- oedd, ac ar y bobl a breswylia ynddynt, a hynny nid yn unig pan yn preswylio yn y lleoedd, ond hefyd drwy gyfrwng atgof eraill am danynt. Y gwr a enwir fynychaf fel y mwyaf arbennig ymhlith bro- dorion y ddinas ydyw William Ambrose (1813-73). Yma yr