126 METHODISTIAETH ARFON. Yr oedd Isalaw (1843-1901) yn frawd i William Richards y pregethwr, a rydd ei atgofion ynglyn â hanes eglwys y Taber- nacl, fel y gwelir yno. Yr oedd y ddau o'r un anian, yn wŷr rhydd, rhwydd, rhadlon, agored, llawen, llawn teimlad tlws a dawn natur. Y gwahaniaeth oedd fod William felly ar y wyneb, a bod yn rhaid treiddio i lawr o'r golwg yn fwy er cael Isalaw felly. Yr oedd Isalaw tuag at bawb yn wr tyner a boneddig, a cherid a pherchid ef gan bawb. Fe gododd do ar ol to o gantorion yn y ddinas heb gymhelliad ond cymhelliad cariad. Ni chafodd William mo'r mynegiad arosol i'w ddawn a gafodd John, er ei fod yn bregethwr a cherddor dawnus. Brodor o Fangor oedd Isalaw ac yma y treuliodd ei oes. E fu yn Bir- mingham yn derbyn addysg gerddorol, ac i gerddoriaeth yr ymroes efe. Fe gyfansoddodd gryn liaws o donau ac anthem- au, ac fe'u cyfrifir yn meddu ar ryw ragoriaeth arbennig. Mae nerth a phrydferthwch wedi eu cydblethu yn ei Enaid cu, mae dyfroedd oerion; a llawn melodi yw ei anthem boblogaidd, Bydd melus gofio y cyfamod; a dernyn perffeith-gwbl y cyfrifir ei ganig, Y Seren Unig. Fe drefnodd i'r wasg gryn swrn o hen erddiganau Cymraeg. Brodor o Fangor oedd Gwyneddon (1832-1904) a fu'n ohebydd ac is-olygydd i'r North Wales Chronicle, yn olygydd i'r Goleuad ac i'r Temlydd Cymreig, sef cyhoeddiad y Temlwyr Da ydoedd yr olaf yna. Yr oedd yn wr o ddawn barod fel siaradwr ac ysgrifennydd yn y Gymraeg a'r Saesneg. Meddai ar wybodaeth helaeth mewn gwleidyddiaeth ac yn hanes a chynnwys y cylchgronau a phapurau newydd Cymraeg. Fel cadeirydd i John Morley yng Nghaernarvon yr oedd ei araeth feistrolgar ar y wedd i bynciau gwleidyddiaeth a eglurid ganddo yn amlwg yn tynnu sylw y gwleidyddwr. A, brodor o Fangor oedd ei nai yntau, sef W. Cadwaladr Davies (1849-1905). Fe ddechreuodd ei oes gyhoeddus mewn swyddfa papur newydd yn y ddinas, ac yn y man fe ddechreuodd sgrifennu ar fudiadau Cymreig. Fe ddaeth i gysylltiad â Syr Hugh Owen yn ei waith ef dros Gymru. Fe lanwodd y swydd o gofrestrydd cyntaf coleg y brifysgol ym Mangor, a phriod- olir llwyddiant y Gronfa yn bennaf iddo ef. Efe ydoedd cych- wynnydd y mudiad am ffordd haearn i Bethesda. Oddeutu chwarter canrif olaf ei oes yr oedd yn far-gyfreithiwr. Yng nghytûn â'r Athro Lewis Jones fe sgrifennodd hanes Prifysgol
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/158
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto