128 METHODISTIAETH ARFON. ag eiddo'r boneddig ieuanc yn y Bardd Cwsg, fel y gallasai ridyllio ffa wrth wynt ei gynffon, eto fe awgrymai yntau ryw- beth ar y fath honno i'r edrychydd. Ni wyddis a fu efe yn yr Amerig ai peidio; ond yr ydoedd ei het a chyflead yr het ar y pen yn awgrymu hynny. Dim cam-ystum yn y byd arno ych- waith, ond yn unig dealled pawb o bell fod yma wr yn gorffwys yn deg ac yn gwbl ar ei waelod digonol ei hun! Fe amddi- ffynai hawliau'r gweithiwr, ac efe oedd cawr hunan-osodedig y chwarelwyr, nid heb ei gymeradwyo fel y cyfryw o'u tu hwythau. Fe ysgrifennodd lyfr ar Chwareli a Chwarel- wyr. Fe feirniadai grefydd, fel y gwelsai efe hi, oddiar y safle hon mewn llyfr yn dwyn y teitl,-Dadl rhwng Pabydd a Phrotestant ar grefydd yng Nghymru. Perygl yr ysbryd offeir- iadol, honiadol, yn yr ymneilltuwyr eu hunain yw'r pwnc i gryn fesur. Fe ddywed Syr Henry y gwnelai athro rhagorol yn yr ysgol yn y Tabernacl, ac y bu'n dilyn y moddion yno yn lled gyson am rai blynyddoedd. Ac o'r dechre, yn ol Syr Henry, fe safai braidd ar neilltu, gan estyn llathen beirniadaeth ar hyn a'r llall. Yna dechreu esgeuluso, ac yna llwyr ymddi- eithro. Yn ol Syr Henry (Y Tabernacl, t. 123), yr oedd yn siaradwr campus mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn y dref. E fu farw telynor dall o fri, Edwards wrth ei enw, yn nhŷ ei chwaer o'r enw Jones ym Mhen yr allt, Bangor, ar Ionawr 13, 1815, yn 65 oed. Mae P. B. Williams, yn ei lyfr ar sir Gaer- narvon (t. 50), yn dyfynnu saith o benillion Saesneg a gyfan- soddodd rhywun iddo: Cold is the hand that once.. Could lull each passion rude And on this "Muse deserted shore " Shall no such Bard hereafter live? . . For yet some heaven-taught child. . E fernid William Pritchard Llys y gwynt ger Bangor yn un o delynorion goreu ei oes. Yr oedd yn ei flodau tuag 1840. Bu farw yn Nerpwl yn niwedd oes. (Llyfr Cerdd Dannau, Robert Griffith, t. 276). Brodor o'r Rhuthyn oedd Thomas D. Morris, a ddaeth i Fangor yn gynnar ar ei oes. Yr oedd yntau, pan ym mlodau ei ddawn, yn rhenc flaenaf y telynorion. Fe gyhoeddodd lyfr o Alawon Cymreig. Bu farw ym Mangor, Mehefin 20, 1868. (Llyfr Cerdd Dannau, t. 251).
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/160
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto