Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/162

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Crydd bryd arall. Deallaf nad oedd dim hynodrwydd ynddo ymhellach na'i fod yn ymddyddori mewn pethau a berthyn i fardd, a'i fod yn dipyn o lenor. Mae mab iddo, Lloyd Hughes, yn weddol enwog yn y brifddinas fel canwr cyhoeddus. Fe dreuliodd Hugh Hughes y rhan olaf o'i oes yn yr Aber, yn Nhremynfa, lle bu farw oddeutu 1912. Bu am ysbaid yn Llan- fairfechan [ac am ysbaid yn yr Amerig.] Wesleyad ydoedd." Fe wasgwyd y sug, ond odid, i'r gân ar yr Aber. Ansicr ei dymer oedd Hw Eryri, weithiau'n uchel weithiau'n isel. Weith- iau ni chymerai arno glywed pan elwid arno i ddwyn ei ran yn y cyfarfod gweddi, dro arall fe ddygai ei ran heb ei gymell. Bu am wyth neu naw mlynedd ar un ysbaid na thorrai air à neb o flaenoriaid yr eglwys yn Aber, ac ni wyddid yn iawn pam. Er hynny, dan bregeth yn apelio at y teimlad fe ffrydiai dagrau o'i lygaid, ac weithiau fe'i gwelid yn dygyfor gan ymferwad teimlad. Fe ddywedir na rusai weu darnau o eiddo eraill i mewn i'w gyfansoddiad ei hun. Nid oedd Huw'r Crydd dan ei lywodraeth ei hun, er nad oedd heb ryw ddyfnder oddimewn. E fynn Mr. Dafydd Thomas, Tŷ capel y Wesleyaid, a gwr yn meddu ar gymhwyster i farnu, nad oedd Huw'r Crydd yn ddim clwt esgid wrth John Parry yr Hen Glochydd, y rhodd- wyd ei atgofion am yr Aber. Fe ddysgodd ef gyfansoddi bardd- oniaeth, mewn rhai mesurau, yn weddol gywir wrth reddf, heb efrydu'r rheolau arnynt eu hunain, yn ol Mr. Dafydd Thomas; ac fe weuai linellau ynghyd ar darawiad wrth gymhelliad yr achlysur, heb orofal am reol cynghanedd neu ramadeg. Yr ydoedd yr un mor barod yn ei ateb ar bob achlysur yn y byd. Fe'i holid ef ar ryw gyfle gan y Dr. Clifford Llundain, a'r ddau yn ddieithr i'w gilydd, pa fodd yr oedd y Wesleyaid a'r Calfin- iaid, dau enwad y lle, yn gallu cyd-dynnu â'i gilydd? Wedi i John Parry, ac yntau yn hen Wesleyad ei hun, ateb y cyd-dynn- ent yn eithaf, fe ofynnodd i'r gwr dieithr i ba enwad y perthynai ef? I'r Bedyddwyr, oedd yr ateb. "Pw, lobscous!" ebe John Parry. Holai'r Dr. am ystyr lobscous. "I'll tell you, ebe John Parry, "a leetl peppar, a leetl 'tatoes, and a leetl meat and a very leetl, too!-and plenty [a'r llais yn bolio allan fel hwyl llong ar awel yn y gair plenty-and plenty] of wattar!" Mawr ddifyrrwch a gaffai'r Dr. yn yr ateb. Yr oedd Allanson Picton yn trigiannu yn niwedd oes ym Mhenmaenmawr. Bu'r Parch. Dewi Williams yn cyd-drig-