iannu âg ef yno am ddeuddeng mlynedd. Bu Allanson Picton yn weinidog ymhlith yr Annibynwyr Seisnig; ac yr ydoedd yn adnabyddus fel o'r un golygiadau a Forsyth cyn i'r gwr hwnnw gael tro yn ol i gyfeiriad y syniadau efengylaidd. Darfu i'r ddau alw sylw arbennig atynt eu hunain ynglyn â'r syniadau eang yn y Leicester Conference. Yr oedd Allanson Picton yn wr o allu a gwybodaeth neilltuol, ac o ddawn fel llenor. Ei hoff bynciau fel sgrifennydd oedd ar y terfyn rhwng crefydd ac ath- roniaeth, er y ceid ef, hefyd, yn ymdrin â phynciau llenyddol. Mae ei gyfrol Mystery of Matter (1873) yn dwyn ei henw oddi- wrth y traethawd blaenaf ynddi, ac mae hwnnw yn agoriad i'r pedwar traethawd dilynol. Pan enwyd Allanson Picton un- waith mewn cwmni, fe gyffroes Evan Jones Moriah fymryn, a chyfeiriai ato fel dyn od, ac yr elai oddiamgylch heb ddim het ar ei ben. Yr oedd hynny y pryd hwnnw yn beth mwy dieithr nag yn awr. "Ond gwiriongi yw Allanson Picton." Fe ddisgrifir Allanson Picton gan Mr. Dewi Williams fel dyn à phen anferth ganddo i ateb i faint ei gorff, a thebyga y gall- asai yn eithaf hawdd fod yn wr pendant ei syniadau. Hawdd, ynte, y gallasai efe ac Evan Jones fod wedi myned i wrthdaraw- iad: hawdd y gallasai dau bendant fyned yn benben. Ni ddy- wedwyd ddarfod i hynny ddigwydd; ond braidd y tebygir mai felly y bu. Dyma nodiad arno gan un o drigianwyr y Dwy- gyfylchi, a gafwyd drwy law Mr. R. J. Hughes: "Mab ydoedd James Allanson Picton i Syr J. A. Picton Nerpwl [pensaer rhai o'r prif adeiladau yno, ac awdwr yr Atgofion am Nerpwl, 1873- Fe gyhoeddodd ei fab gofiant iddo yn 1891.] Mae ei gysyllt- iad â Dwygyfylchi yn rhedeg yn ol am tua 8o mlynedd [o 1922], pan fyddai ei rieni ac yntau yn arfer â threulio'u gwyliau yn y Sychnant. E fyddai'n arfer âg ymweled â'r lle wedi hynny, gan aros yn y Tai bach. Yn 1892, fe adeiladodd Caerlyr yma, ac arosodd yma hyd ei farw yn 1909. Bu'n aelod o'r Cyngor Lleol yma, yn warcheidwad ac yn ystys heddwch. Fel hen aélod seneddol dros Leicester [Caerlyr] yr arferid ei gyflwyno ger gwydd cynulleidfa gyhoeddus. Nid oedd yn siaradwr hyawdl, ond fe edrychid arno fel awdurdod ar bynciau'r dydd. Mewn sgrifennu y treuliodd efe flynyddoedd diweddaf ei oes. Mi glywais iddo fod yn weinidog ymhlith yr Annibynwyr pan yn Leicester; ond yn ol pob golwg yr ydoedd erbyn dod yma wedi newid ei syniadau yn hollol [sef nid, fel Forsyth, gan
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/163
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto