ddychwelyd i'r syniadau efengylaidd, ond i'r gwrthwyneb]." Hyd yma'r gwr o Ddwygyfylchi. A'i ddeall am grefydd gyf- undrefnol a swyddogol yn unig, tebyg y cytunasai Allanson Picton â'r datganiad a rydd Peter Pindar yng ngenau Tom Paine: Philosophy has crack't Religion's "bones. Pan aeth John Gibson (1790-1866) i Nerpwl yn ddeg oed o'i ardal enedigol, sef Conwy, prin y gwyddai ddim Saesneg. Bu ei dad yn myned i'r gwasanaeth yn Pel Mel, ac nid anhebyg yntau. Daeth efe yn un o brif gerflunwyr y byd mewn oesau diweddar. Er yn frodor o Arfon nid ydoedd ond ar gyffiniau cylch yr hanes hwn. Ni wyddis fod dim neilltuol i'w gysylltu â Chymru wedi ei ymadawiad oddiyma heblaw y dywedir ei fod yn hoff o siarad am dani. Aeth i Rufain yn 27 oed lle'r arosodd. Fe sonir am dano yn 54 oed yn siarad Cymraeg mor ddiled- iaeth a phetae heb fod erioed oddiwrth fynyddoedd Arfon. (Traethodydd, 1866, t. 235. Gweler cyfeiriad at ei ewythr, John Gibson, ynglyn â hanes eglwys Beulah). Mae'r sefydliadau addysg ym Mangor wedi dwyn yma wyr â dylanwad iddynt ar y cylch ac ar gylch yr hanes hwn, cystal ag ar y wlad i gyd. Ni enwir yma mo'r gwyr yr ymhelaethir mymryn arnynt yn hanes yr eglwysi. Bu Syr Henry Jones yr athronydd yn y Coleg Normalaidd yn ystod 1871-2, a bu yn is-athro yno am ysbaid o dri mis neu bedwar at ddiwedd y flwyddyn olaf; a bu yn athro yng ngholeg y brifysgol yn ystod 1884-91. Yr oedd iddo ddylanwad nodedig ar y myfyrwyr, ac i ryw fesur ar y cylch i gyd. E wyddis ei fod yn bregethwr ymhlith y Methodistiaid. Fe berthynnai i'w nodweddiad el- fennau ardderchog, a meddai ar allu arbennig i gyfleu ei feddwl yn eglur ac atyniadol, yn ei ddosbarth ac yn y pulpud ac ar y banllawr. Yr ydoedd yn dyb gan y Parch. Evan Jones na werthfawrogid ef yng Nghymru yn ddyladwy oblegid nad oedd yn uniongred ei syniadau. Pan ddywedwyd fod y syniad am dano wedi myned gryn lawer yn uwch wedi ei symud i'r Alban, dywedai yntau'n ol nad ydym ni ddim yn gweled yr aderyn pan ddisgyno ar ein tir ein hunain, ac mai pan ddisgyno ar dir arall yr ydym yn ei weled. Dengys yr Old Memories mai siom lem i Syr Henry oedd peidio â'i ddewis yn brifathro'r brifysgol
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/164
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto