rhan fwyaf am gyfranu!—ac yna yr ychwanegai ei hunan,— "Peidiwch â gadael i ryw bysgodyn—i ryw bennog, y'ch curo chwi." Ac fel yntau, hefyd, gallai weithiau, os yn anaml, roi cam gwâg anturiaethus, megis pan yr awgrymai y gallai'r cyflwr dyfodol ddwyn i'r golwg luosowgrwydd o bersonau yn y Duwdod. Ni thynnai'r pethau hyn, gan na cheid hwy ond anaml, nemor oddiwrth ei ddylanwad ef. Ac fel Christmas Evans, drachefn, gallai gyfleu yn y cof ambell i bellen o feddwl cryno i'w dirwyn yn hamddenol ar ol hynny: "Ynglyn à hanes y Dyn Perffaith y gwnaeth dagrau fwyaf o'u hôl ar ein daear ni.' Yng ngwlad Brobdingnag, gan gymaint cewri y trigolion, ni chyfrifid mo'r morfil ond rhyw faich ysgwydd. Ac yn ei gyfnod goreu, ac yn ei fannau uchaf, ar ambell darawiad, fel Christmas Evans eto, ond yn anamlach nag ef, fe awgrymid ei fod o wehelyth y cewri aruthr hynny. Ond ei neilltuolrwydd mwyaf arbennig a phriodol ydoedd rhyw adlam i'w hyawdledd, pan y clywid ef ar ei uchelfannau hynny. Fel neidiwr cyfarwydd, fe giliai yn ol wrth gymeryd gwib, ac, à chymorth ei bawl, fe hedai yn ysgafnaidd drwy'r awyr ar ddarn o gylch; ac, fel pêl y chwareuydd ar y mur, a dery y llawr yn gyntaf ac yna'r mur cyn dychwel o honi ar lun cylch, yr un ffunud y dychwelai yntau yn ei ymadrodd âg adlam uchel, ysgafnaidd; ac, fel y bwmerang, fe ymdaflai yntau allan drwy'r awyr, ac, â rhyw droad o gyfaredd, fe ddychwelai yn ol, gan syfrdanu cynulleidfa o wrandawyr. Yn ei fannau uchaf i gyd y ceid y cyffelyb i hynny. Ond ar bob pryd fe lifeiriai ei ddawn fel afon go led gyflym er nad trystiog, ac à thôn soniarus, ac, wedi ymdaflu i'w bwnc, yn null un yn pyncio cân. Fe atgofid O. M. Edwards am "fâs tyner" Ap Fychan gan ruad Rhaeadr Mwy a oedd gerllaw ei hen gartref, megis petae swn y rhaeadr, debygid, wedi gadael ei ôl ar dôn y llais. Fel y dirwynai'r meddwl i'r pen, fe symudai ei ddwrn de fymryn o dde i chwith ac yn ol, eilwaith a thrachefn, nes cyrraedd yr uchelfan olaf, gan ymsefydlu yn deg ar ben y golwg. "Efe a gilia fel cysgod, ac ni saif. Yr wyf yn cofio pan yn fachgen yn y Penllyn y gwyddem yn dda pa beth ydoedd o'r gloch wrth hyd y cysgodau. Nid yw'r cysgod yn sefyll, ond yn cilio, cilio, yn barhaus. Felly dyn—ni saif. Gosodwch ef yn ffarmwr yn Nyffryn Maelor; fe saif y ffarm —ond ni saif y ffarmwr. Gosodwch ef yn siopwr mewn tref fel Nerpwl; fe saif y siop—ond ni saif y siopwr. Gosodwch ef
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/176
Prawfddarllenwyd y dudalen hon