medrus. Fe ddaeth y Canon John Griffiths yma, Hydref, 1912, ac ymhen y tri mis fe'i tarawyd â'r selni y bu farw ohono wedi blynyddoedd o ddioddef llymdost. Enciliodd o'i swydd, Hydref, 1913, pan y'm penodwyd innau. Offeiriad [wedi hynny] arall a fu mewn cysylltiad agos â'r plwy yn ei ddyddiau bore oedd y Parch. Joseph Jones. E fu'n weinidog Wesleyaidd, ac wedi ei dderbyn i'r Eglwys fe efrydodd ar gyfer yr offeiriadaeth. Yr ydoedd ef yn hynod am ei sêl, yn bregethwr mawr ac yn ysgolhaig Cymraeg. Gwr diniwed ac elusengar. Yn y man, danfonwyd gan ei uchafiaid i'r Trallwm, lle dibennodd ei yrfa." Hyd yma'r Tad Quinn. Fe eglurir ganddo nad yw'r cofnodion eglwysig yn myned ymhellach yn ol nag 1856, gan ddarfod i'r Swyddog Iechyd losgi llyfrau'r offeiriad a fu farw o dwymyn y pryd hwnnw.
Dyma nodiad a gafwyd gan Syr Henry Lewis ar enwadau eraill a fu ym Mangor: "Bu Seintiau'r Dyddiau Diweddaf yma, a chynhalient gyfarfodydd yn yr awyr agored. Un ohonynt yn unig wyf yn gofio, sef R. D. Roberts (Mwrog), symudodd oddiyma i'r Rhyl. Ychydig a wn am eu harosiad yma. Bu Byddin yr Iachawdwriaeth yn gweithio yma am rai blynyddoedd. Yr oedd ganddynt ystafell yn Hirael. Ni wnaethont lawer o'u hôl, am fod yma gymaint o eglwysi a'r rheiny i gyd yn weddol weithgar. Nid oes yma neb ohonynt bellach [1922]." Hyd yma Syr Henry. Fe ddanfonwyd at y Fyddin am wybodaeth am y cychwyn yma ac yn yr ardaloedd yn y cylch, ynghyda thâl am gludiad ateb. Ni dderbyniwyd ateb. Nid yw'r Fyddin yn amddifad o gyfrwystra'r sarff. Tebyg mai yn ymyl yr un adeg ag y cychwynnwyd yng Nghaernarvon, sef 1887, y cychwynnwyd yn y ddinas; ac mai yn union ar ol hynny y cychwynnwyd yn yr ardaloedd o amgylch. Nis gallasai beidio â bod felly yn hawdd, am fod cynnwrf mor anarferol ynglyn â'r cychwyniad hwnnw, cynnwrf a barhaodd yn ei rym am rai misoedd, ac mewn grym llai am ryw ychydig flynyddoedd. Nid yw Syr Henry, yn ei lyfr ar y Tabernacl, yn cyfeirio o gwbl at y mân enwadau o Fedyddwyr. Mewn ymohebiaeth bellach âg ef yn eu cylch nid ymddengys y gŵyr iddynt fod yn y ddinas, yr hyn a ddengys o leiaf na wnaethont yma nemor fwstwr.