Fe gyfleir yma grynhodeb rhydd o atgofion Gwyneddon: Fe'm ganwyd yn gynnar yn y tridegau yn y ganrif ddiweddaf. Ym Mangor yr oedd y Tabernacl, a daethum yno i gymundeb â chymeriadau a adawodd eu hôl ar Gymru. Yr oedd John Robert Jones y prif flaenor yn wr hybarch ac urddasol yr olwg, wedi cael addysg dda, ac yn nodedig am bwyll a doethineb. Efe fyddai'n gofalu am y cyhoeddiadau, ac ni ddatguddiai'r gyfrinach hyd yn oed i'w gydswyddogion a'i deulu. Ar un tro, ac yntau oddicartref, mi ddigwyddais fod yn ei swyddfa gyda'r mab ieuangaf, W. R. Jones, y Penrhyn wedi hynny. Ni welsom y dyddiadur a adawyd yn amryfus ar y ddesc. Fe gopiwyd y cyhoeddiadau hyd ddiwedd y flwyddyn. Ni ystyriem ein hunain yn broffwydi bychain, gan ein bod yn medru rhoi trem i'n cyfeillion ar y dyfodol. Fe dorrai hynny ar gyfaredd y cyhoeddwr; ond nid hir y bu heb olrhain y dirgelwch. Fe weinyddwyd cerydd ar ei fachgen, a rhybuddiwyd ei gyfeillion rhag ymyrryd â gwaith mor ysbrydol. Yn fuan wedi hyn, nid mewn canlyniad yn ddiau, dygpwyd taflen cyhoeddiadau blwyddyn allan gan y Cyfarfod Misol, ar y cynllun Wesleyaidd; ond ni pharhaodd honno ond am dymor byrr.
Cof gennyf am briod Henry Roberts y pregethwr, sef merch Dafydd Cadwaladr. Mi glywais ei bod yn fwy doniol, er nad yn fwy duwiol, na'i gwr. Hen wraig landeg, lân ei buchedd, hynod gyson yn y moddion oedd hi. Hi siaradai dafodiaith sir Feirionydd. Gwisgai gap gwyn o lace. Cwynai yn erwin am falchter y genethod, sef y blodau a'r rubanau yn eu pennau; ond edliwid ei chap lasia iddi hithau'n ol.
Yr oedd y Deon Warren yn daid i'r Cadfridog Warren o'r rhyfel Boeraidd. Hen wr bychan o gorff, byrr ei ddawn, hynod garedig. Dyma ddwy linell am dano o'r Figaro: Poor Dean Warren, Poor Dean Warren, He can't preach a sermon more than a myharen.
Cymeriad hynod oedd Dafydd Roberts y pregethwr. Iddo ef yr ymddiriedai'r Cyfarfod Misol i fyned i ymofyn cyhoeddiadau hen gewri'r Sasiwn yn y Deheudir. Meddai Dafydd Roberts ar ffraethineb ymadrodd. "Yr ydych wedi magu dau bregethwr da iawn, gwell o lawer na chwi eich hunan," ebe rhywun wrtho ar yr heol. "Purion," ebe yntau'n ol, "ond os na fedrwch i ganmol y plant heb redeg y tad i lawr, callach i chwi dewi." Cof gennyf am dano yn cychwyn i'w daith ar gefn