merlyn. Pwy a'i cyfarfu ar ben yr heol' gerllaw'r farchnad ond Hugh Jones, un o geidwaid yr athrawiaeth yn y Tabernacl. Dafydd Roberts oedd arolygwr y farchnad, ac yr oedd wedi digio Hugh Jones am rywbeth neu'i gilydd. A dyma Hugh Jones yn estyn ei freichiau ar led, er atal y pregethwr rhag myned ymlaen megis, gan ebychu,—" I ba le yr wyt ti, Dafydd, yn myned i flino Israel heddyw?" Edrychodd Dafydd Roberts arno yn ddigyffro, ac ebe fe yn ol,—"Nid y fi, Hugh Jones, sydd yn blino Israel, ond tydi a thŷ dy dad," ac ymaith ag ef. Mewn tref fel Bangor lle gallesid disgwyl amgenach trefn, yr oedd yr arolygiaeth ariannol yn hynod ddiffygiol. Fe fwrid y casgliadau i gyd i un drysorfa, sef llogell eang yr hen, flaenor parchus William Parry. Ni fu neb am lawer blwyddyn yn cadw yr un check arno. Efe oedd yn talu'r degwm i'r pregethwr. Ar ddiwedd blwyddyn, yn gwbl o'i gof, rhoe fath ar adroddiad am daliadau'r pregethwyr. Yr oedd yn eithaf clir am John Elias, a John a Dafydd Jones, ond yr oedd mewn petruster am faint y gydnabyddiaeth i eraill. Yn ol barn ei wasanaethwr mwyaf ffyddlon, gwnelai gam âg ef ei hun yn amlach na'r eglwys; o'r hyn lleiaf nid oedd prinder arian yn demtasiwn iddo. Gwasanaethwr byrddau ydoedd ef. Y gofynion ariannol a gyfrifid ganddo fel ei ofal ef. Ni chlywais mono'n cynghori nac yn cyflawni unrhyw ran ysbrydol. Ymffrostiai iddo. fod yn ddisgybl i Evan Richardson, ac iddo brofi argyhoeddiad drwyddo.
Mae gennyf led-gof am ysgol Owen Thomas yn festri'r Tabernacl pan ydoedd yn dechre pregethu. Ni fu nemor lewyrch arni. Pregethwr ac nid ysgolfeistr ydoedd. Testun llawenydd ydyw'r nifer o weinidogion a fagwyd yn y Tabernacl. Pa reswm ellir roi dros golli i'r enwad y fath wŷr a Dr. John Thomas a'r Dr. David Roberts? Yr oedd yr hen frodyr yn hwyrfrydig i gymell yn bregethwyr ddynion ieuainc o ddoniau heb fod mwy arwydd o ras na doniau. Tybed nad oeddynt yn methu wrth feddwl fod yr arwyddion bob amser yn amlygu eu hunain yn yr un ffordd? Yr oedd meddu dawn ym marn rhai ohonynt yn anghyson â meddu gras. Yr oedd y ddau a nodwyd yn wŷr ieuainc bucheddol, deallus, a goleu yn yr ysgrythur. Ni cheisient gelu eu hawydd am bregethu. Mi glywais y dywedai un o'r blaenoriaid fod eu hymddygiad yn rhy hyf, gan y dylasent aros am anogaeth yr eglwys. Yr oedd y