droad Ffreinig. Darfu i wasgfa a chaledi hyrwyddo'r Chwyldroad, a diau ddarfod i'r un achosion gynorthwyo yn ffurfiad yr ail gyfnod yma. Sefydlwyd eglwys Llanrug yn 1783; Beddgelert yn 1784; Capel Curig yn 1785—6, y Gatws oddeutu 1787, Moriah yn 1787, Brynrodyn yn 1789, Betws y coed yn 1790, y Graig oddeutu 1790, a'r Rachub yn 1793. Yn 1787 y dechreuodd Robert Roberts bregethu. Daeth y trydydd cyfnod gyda diwygiad Beddgelert (1817—21). Yn 1821 y dechreuodd John Jones, Talsarn wedi hynny, bregethu.
Nid oes dim yn fwy effeithiol fel cynorthwy i ddeffro'r meddyliau dyfnaf yng nghalon dyn na'r gwasgfa a'r caledi y cyfeiriwyd atynt. Dyma'r pryd yn arbennig y gwelir "fflam y sêr" yn tywynnu yn eigion yr enaid. A bod y blynyddoedd yn union o flaen y Chwyldroad mewn rhan yn gyfryw flynyddoedd yng Ngogledd Cymru ag yn Ffrainc, gellir dyfynnu tystiolaeth hen gerdd wrth law a gyfansoddwyd, gellir meddwl, at ddiwedd 1782, gan Jonathan Hughes yr ail o Langollen. Yr oedd yn rhyfel yn y wlad ar y pryd â'r Amerig, rhyfel a barhaodd o 1775 hyd 1783. Yr oedd llwyddiant mawr mewn masnach yn Lloegr, yn enwedig ar ol y rhyfel. Fe ymddengys, er hynny, fod dioddef mewn rhannau o'r wlad. Dyma'r pennawd i'r gân:
"Ychydig o ystyriaeth am yr arwyddion a'r damweiniau hynod a ddigwyddodd yr oes bresennol; y tymorau anhwylus a diweddar y flwyddyn 1782."
Pa beth yw'r rhyfel a'r ymryson, |