Nid yw fe'n ceisio danfon cysur, |
A bod yr awdwr yn ymdeimlo yn ddwys â'r angen am ym— ostyngiad meddwl yn wyneb yr amgylchiadau sydd yn amlwg ymhellach oddiwrth linellau arweiniol o'i eiddo:
Mae achos inni bwyllo a sobri. |
Nid anhawdd meddwl bod rhyw iàs o gyffelyb deimlad yn yr eglwysi yn y wlad, a bod gan hynny ei effaith mewn rhan yng nghynyrchiad y diwygiadau nerthol y gwyddis eu bod mewn mannau yn ystod y blynyddoedd hynny, diwygiadau y profodd Robert Roberts, yn un, ddylanwadau nerthol drwyddynt yn ystod y blynyddoedd cyn dechre ohono ar y gwaith o bregethu.