Penmaenmawr a glannau goblygedig Môn mae'r môr, yn rhyw ffrwd ariannaidd yn ymgolli na wyddis ddim ym mha le. Ac ar yr ochr yma, ebe Matthew Arnold, y mae preswyl y gorffennol, lle mae i bob man ei draddodiad ac i bob enw ei farddoniaeth; a glŷn y bobl wrth y gorffennol hwnnw. Ac wrth edrych tua'r môr a Môn dacw Benmon ac Ynys Seiriol a'i mynachdy, lle gorwedd Maelgwyn, a dacw Draeth y Lafan a Llys Helig, sef palas a thiriogaeth claddedig dan y tonnau. Dyma dir Sigeia na chafodd eto mo'i Homer, ebe Matthew Arnold.
E fu Gladstone yn dod i aros am ei wyliau haf i Benmaenmawr dros ystod rhai blynyddoedd, a dywedid nad oedd unman yr ymhoffai yn fwy neu'n gymaint ynddo fel man i dreulio gwyliau, megis y dywedid nad oedd unman yr ymhoffai dreulio darn diwrnod yno yn fwy na Mynydd yr Hôb, ger Caergwrle yn sir Fflint. Mae trigolion Penmaenmawr wedi dangos eu hedmygedd ohono yntau drwy godi cerfddelw pen ohono ynghanol y lle, a'i golwg i gyfeiriad golygfa Matthew Arnold. Mawr fwynhad iddo yntau ydoedd arwyddion o serch y bobl tuag ato fel y dangosid mewn actau bychain o garedigrwydd. Ac er nad rhyw Islwyn synfyfyriol ydoedd ef a ymgollai am ddarn diwrnod mewn môr neu fynydd neu leuad neu dwrr sêr, eto fe wyddis y fflachiai i'w ysbryd yntau ar gip swyn a rhamant golygfa, a dylanwad cyfrin ei thraddodiadau, yn enwedig traddodiadau eglwysig. A diau ddarfod i ddylanwad esmwyth amryw liwiau machlud haul a chyfrinedd rhesi pell y mynyddoedd, fel y gwelid hwy o'r naill fan a'r llall yn yr ardal, cystal ag atsain Traeth y Lafan a Chôr Seiriol, fyned i mewn i'w ysbryd, i'w cipio ganddo i fyd lle'r ymddeffroant mewn gogoniant newydd. Nid yma ond tuhwnt i'r llen yr ymddengys y prifardd a gân yn deilwng o'r olygfa; a phan gynghaneddir yr olygfa fe'i hacennir gan brofiadau'r saint.
Y Penmaenmawr yw'r clogwyn agosaf o'r ddau i Fangor a'r Penmaenbach y pellaf. Gwelir clogwyn yn ymyl y Penmaenmawr a chlogwyn nid nepell oddiwrth y Penmaenbach, a chlogwyn arall eto tua'r canol yn ymbellhau oddiwrth y môr. Mae Pen y Gogarth gyferbyn a'r Penmaenbach, ac Ynys Seir- iol hithau'n ymgodi'n uchel o'r môr, gyferbyn a Phenmaen- mawr, ond ymhellach oddiwrtho. Mae'r pennau yma fel pen- nau cewri yn dod i'r golwg allan o'r pydewau o amgylch yr agoriad i'r Fenai gan wylio Porth y Dyfnder. Fe geir y môr