yn ymwythio i mewn i'r tir rhwng y ddau Benmaen ar ffurf darn o gylch, a thrachefn rhwng Penmaenmawr a Bangor, a rhwng Bangor a Phontydd y Fenai, ac oddiyno ar y Fenai unwaith neu ddwy. Mae'r prydwedd yma a berthyn i'r glanau yn rhoi argraff o ddirgelwch i'r olygfa fel yr hwylir ymlaen o'r môr drwy'r afon neu ynte i'r gwrthwyneb, gan roi awgrym o gylchoedd Caerdroia, ac yn amrywio'r olygfa ar y glannau ac ar y mynyddoedd pell. Mae'r Fenai ei hun, hefyd, heblaw hynny, weithiau'n ymgyfyngu, weithiau'n ymeangu, gan chwanegu at yr argraff am wyrth y troeadau. Fe deimlir yr olygfa yma fel rhosyn yn ymagor mewn cylchoedd o ddalennau, a'r naill gylch yn ymestyn tuhwnt i'r llall, a'r cwbl yn ymgodi allan o'r dwfn o lesni, a hynny drachefn oddiar ogoniant anweledig ond i'r ysbryd, gogoniant tuhwnt i ogoniant yn grëedig ac yn ddigrëedig.
Os edrychir ar yr olygfa o gwrr dwyreiniol Porth Aethwy i gyfeiriad Bangor ar noswaith loergan leuad, nis gellir bod heb ymdeimlad â swyn a thlysni odiaeth. Dyma olygfa yn ymateb mewn harddwch i harddwch y lloer ei hun: yma wele frenhines y nef ar ei gorseddfainc yn yr asur glas, amgylchynedig â herodron tragwyddoldeb; a'r ddaear odditanodd amgylch ogylch yn lleithig ei thraed. Mae'r dwfn glas oddiarnodd wedi ei adlewyrchu yn y dwfn glas odditanodd; ac yn y canol cydrhyng- ddynt, fel lleithig mirain gorseddfainc y nef, y mae'r ynysoedd gerllaw, os yw'r llanw i mewn, a'r glannau ar bob llaw, a'r mynyddoedd draw amgylchynedig â'r niwloedd llwydwyn; ac mae'r claer oleu euraid yn daenedig dros y cyfan, a'r Afon Fenai yn llonydd fel y môr o risial, ac oddiarnodd ac odditanodd y byrlymiadau goleuni llym-danbaid fel boglynau ar y gloew-for glas. Nid cwbl anaddas, o'i gymhwyso at y llecyn yma, ddywediad y Neapolitiaid am eu dinas Naples, sef yw hwnnw, mai dernyn o Baradwys ydyw wedi ei ollwng i waered. i'r ddaear; na'r dywediad arall hwnnw o'r eiddynt, sef, Gwel Naples a bydd farw.
A lapir mewn swyn syfrdan, fel y teimlodd Sotheby (Tour through Wales, 1794) ac y disgrifiodd yn ei soned, y teithydd hwyrol wrth groesi o Fôn i Fangor ar loergan leuad, newydd godi ohoni o'r tucefn i'r Wyddfa ar fôr tawel ac ar noswaith seirian serog. Lleufera goleu llwydwyn y lloer o lan i lan ar lif esmwyth y dwfr, oddieithr am gysgodion tywyll yr hen Ben-