Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/5

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR.

HEBLAW y ffynhonellau neilltuol a ddefnyddiwyd gennyf, ac a nodir ar waelod y ddalen flaenaf yn hanes pob eglwys, mi wnaethum hefyd ddefnydd helaeth o ffynhonellau cyffredinol i'r hanes, a nodaf hwynt yma gyda sylwadau ar y defnydd hwnnw o honynt.

1. Mi gefais ganiatad y Cyfarfod Misol i edrych y gweithredoedd yng nghist y Cyfarfod Misol ym Moriah, heb symud y gweithredoedd ymhellach na'r stafell gerllaw. Yr oedd hyn yn gwbl angenrheidiol gan na byddai'r ysgrifau a ddanfonwyd o'r eglwysi bob amser yn nodi maint y tir a bwrcaswyd a pha faint a dalwyd am dano neu pa bryd y pwrcaswyd; a phrydiau eraill yn gwneuthur hynny yn anghywir. Erbyn myned i'r gist mi gefais fy ngwaith wedi ei rwyddhau yn fawr, gan fod y Parch. T. Gwynedd Roberts eisoes, ar gais y Cyfarfod Misol, wedi tynnu allan grynhodeb byrr o'r pethau angenrheidiol ym mhob gweithred. Er hynny mi edrychais dros bob un o'r hen weithredoedd hyd tua'r flwyddyn 1830. Yr oeddwn yn gwneuthur hynny am fy mod yn cael cyfeiriadau at bethau ynddynt na nodid mohonynt mewn gweithredoedd diweddarach, megis, er enghraifft, rif aelodau un eglwys, a rhif y coed a dyfai ar y tir a bwrcaswyd mewn man arall, a'r cyffelyb, pethau a nodwyd gennyf yn eu lle priodol. Yr oedd gweithredoedd mwy nag un o'r eglwysi hynaf i gyd wedi eu benthycio gan yr eglwysi hynny, fel na welais mohonynt hwy. Yr oedd tir wedi ei bwrcasu ar amryw droion yn hanes y rhan fwyaf o'r eglwysi hynaf, ac yr oedd mwy na hanner y gweithredoedd hynny yngholl. Mi fenthyciais ryw dair ohonynt gan Mr. R. D. Williams y cyfreithiwr yng Nghaernarvon. Drwg colli'r hen weithredoedd hynny, am y rheswm a nodwyd, sef eu bod yn cynnwys ffeithiau nad oedd coffa am danynt fel arall.