ac na ewyllysiwn mo'r gymdeithas harmonaidd mewn unrhyw bellter mwy oddiwrthyf."
Yn 1798 y gwnaeth John Evans ei daith bennaf drwy Ogledd Cymru, er iddo fod rai gweithiau eraill drwy rannau o'r wlad. Yr ydoedd ef yn Gymro, er fod yn amlwg oddiwrth rai o'i ddyfyniadau na feddai feistrolaeth ar yr iaith; ac yr ydoedd yn eglwyswr, er yn meddu cydymdeimlad âg ymdrechion ymneilltuwyr. Fe ddaeth drwy'r rhanbarth yma o gyfeiriad Llanberis a Chaernarvon; a dywed fod y naw milltir o Gaernarvon i Fangor mor wych ag y gallasai darfelydd dyn ddychmygu. Sonia am ddyfroedd y Fenai yn cadw ar bob pryd y tryloewder a'r glesni disglair hwnnw ag sy'n nodweddu ceinion dwfr a mör.
Fe ddywed John Evans i'r Esgob Warren farw tra'r ydoedd ei lyfr ef, a gyhoeddwyd yn 1804, yn y wâsg. Fe rydd ar ddeall i'r esgob encilio o'i esgobaeth oherwydd rhyw erlid creulon arno gan rai mewn safleoedd uchel, a hynny am na fynnai efe gynffona iddynt hwy a gwastraffu cynhysgaeth yr eglwys, a oedd yn ei ymddiried, mewn llwgrwobrwyon ar adeg etholiadau.
Mae gan John Evans gyffyrddiad wrth fyned heibio yn dwyn golwg y lle o flaen y llygaid, pan sonia am y nifer o dai yn amgylchoedd Bangor o ymddangosiad boneddig yn perthyn i wyr llen a lleyg, y cwbl wedi eu gwyngalchu a'u toi â llechi, a'r olwg arnynt yn nêt a chomfforddus. A chwanega fod yr amrywiaeth golygfeydd a llwybrau hyfryd, ynghyd â'r môr, ac agosrwydd tref Caernarvon, a ffordd fawr Llundain yn myned trwy'r lle, gan agor tramwyfa i'r Iwerddon, yn rhyw gyfuniad deniadol ar fath na cheid mo'r cyffelyb yn fynych. Diau fod John Evans yma yn dodi ei fŷs ar bethau a ddarfu, yn y cyfuniad ohonynt, ys dywed yntau, agor y ffordd i'r arbenigrwydd y mae dinas Bangor erbyn hyn wedi ei gyrraedd. Mae swyn y lle arno, ac ni ddymunai amgen lle i anneddu, ebe fe, ac â hiraeth yr atgofia nad yw ei waith mewn bywyd yn caniatau hynny.
Fe ymwelodd John Evans â Phorth Penrhyn yn Abercegid. Rhydd brisiau y gwahanol fath ar lechi: Duchesses, £3 10s. y fil; Countesses, £2; Ladies, £1; Doubles, 11s.; Singles, 5s.; Patents, £1 6s. y dunell; Rags, 18s.; Kiln Ribs, 3c. y llath. [Yn ol P. B. Williams, yn ei lyfr ar sir Gaernarvon, t. 103, fe