yma, llai, fe ddywed, nag mewn un llecyn arall yn sir Gaernarvon. Fe swnia hynny yn o ddieithr, hefyd, ar fwy nag un cyfrif. Yna fe atgofia iddo'i hun fod y cythraul yma, a dywed y buasai gwasanaeth corawl cyson wedi bod yn gryn adnewyddiad iddo petae i'w gael, ond nad oedd yma y pryd hwnnw ddim ar y fath honno. Fe ddywed, mor bell ag y clywodd ef, nad oedd yma gôr o gwbl. Fe sylwa fod mynwent y cathedral y pryd hwnnw yn glodfawr fel y brydferthaf yn y deyrnas. Ond prin yr oedd yn brydferthwch cyfaddas i fynwent, fe ddywed, gan mai prydferthwch gardd ydoedd yn hytrach. Fe wenai'r fynwent a gwnelai ei hun yn swynol mewn llwyr angof o'i hamcan gwirioneddol. Yr oedd De Quincey yn cyhoeddi hynny ymhen yn agos i ugain mlynedd ar ol ei ymweliad â'r lle. Ymhen rhyw ugain arall, fe ddichon na fuasai yn dywedyd yn hollol yr un fath, gan fod awyr-gylch y meddwl, erbyn hynny, wedi newid peth o ran y berthynas rhwng llysiau a blodau â choffadwriaeth anwyliaid ymadawedig. Ynglyn â rhyw gyfeiriad at yr esgob fe ddywed fod y Methodistiaid erbyn 1802 yn heidio yn sir Gaernarvon. Fe swnia'r gair "heidio" braidd yn annisgwyliadwy yn wyneb yr hyn a wyddis am gychwyniad yr achos. Oddeutu diwedd y flwyddyn ddilynol i'r un yr oedd ef yma y cychwynnwyd y seiat yn y ddinas, yn cynnwys rhyw naw o bobl. Yr un pryd, fe ddeuai cynhulliadau lluosog i sasiynau y cyfnod hwnnw, a thebyg yr ymledai yr hanes am hynny ymhell. Yr oedd y diwygiad, hefyd, y pryd hwnnw yn atynnu pobl i'r capelau.
Yn haf 1804 y daeth Edward Pugh, yr arlunydd o Gymro y cyhoeddwyd ei Cambria Depicta yn 1816, y ffordd yma i'r amcan penodol i dynnu lluniau ar gyfer y gwaith disgrifiadol hwnnw o'i eiddo ar Ogledd Cymru. E fu farw yn Rhuthyn yn 1813, a bu am ddeng mlynedd yn rhoi ffurf orffenedig ar y lluniau a atgynyrchwyd yn y gyfrol grybwylledig. Dyma beth o flas ei ddisgrifiadau, gan grynhoi'r ymadrodd beth, yr hyn a ellir wneud heb gam âg ef:
"Mi a gychwynais am y bryniau ar y ffordd i'r Aber [wyth milltir o Gonwy ar y naill law a chwech i Fangor ar y llall.]. Ni welais ddim am chwe milltir i amrywio'r olygfa hyd nes deuid at y Ddeufaen. Cyfarfu yma gawr a chawres â gwr a waled ar ei ysgwydd, a gofynasant iddo am y pellter i Fôn. Mor bell, ebr yntau, fel y gwisgais bob esgid yn y waled wrth