deithio oddiyno yma. Ar hynny, wele'r cawr yn dodi'r ddeufaen i lawr mewn pellter o gant a hanner o latheni oddiwrth ei gilydd, a'i gorff yntau'n llanw'r cyfwng; a gollyngodd y gawres ei barclodiad o fân gerrig yn un garnedd gerllaw, a galwyd y garnedd honno yn Farclodiad y Gawres. Myned i Fôn yr oedd y ddeuddyn hyn gyda'r preswylwyr cyntaf, ac yn gerrig y borth ar yr afon er croesi y bwriedid y meini hynny. . . . .
"Gan wthio ymlaen mi gyrhaeddais ben Bwlch y Ddeufaen, ac ar fy nehau yr oedd y Penmaenmawr ysgythrog. Ar yr ystlys hon nid oes ynddo un dychryn i'r teithydd. . . . . Mi ddisgynnais i ddyffryn Aber ynghanol golygfeydd o ramantedd. . . . . Fe rydd y cau yma foddhad i'r arlunydd, yn enwedig pan gyrhaeddo'r bont a chlwstwr o dai o gryn swyn. Fe geir yma, hefyd, rai creigiau gwychion ar bob ochr i'r afon. Ond mae'r ffordd i'r Aber o Gaerhun drwy Gonwy, ac ar hyd glan y môr, o dan y Penmaen anferth yn tra rhagori, ond nac anghofier ymweled â'r cau y soniwyd am dano ac â Phistyll yr Aber.
"Ar encil y llanw mi groesais Draeth y Lafan yn droednoeth am bedair milltir, gan gadw'r tŷ gwyn gyferbyn yn fy llygaid. Gwelais haid o bysgod-wragedd ynghwsg ar y tywod. Gwaeddais yn eu canol â holl nerth fy mhen. Neidiasant ar eu traed gan wneud swn alaethus, a chan dybied fod y llanw ar eu goddiweddyd. Tawelais eu cyffro, gwnaethum arwydd am gwch, ac aethom drosodd ynghyd mewn hwyl fawr. . . . .
"Mi groesais yn ol yn yr ysgraff, a rhyw filltir a hanner o gerdded drwy'r caeau a ddaeth â mi i ddinas fechan henafol Bangor. Mae'r ucheldir i'r dehau yn llawn pynciau deniadol i'r arlunydd. . . . Yn y Perfeddgoed, dwy filltir oddiyma, fe geir melin orchuddiedig gan fwsog, ac yn amgačedig gan goed a chreigiau mewn amrywiaeth gwyllt. . . . Mi gefais ymgom â'r Esgob Cleaver am yr olygfa. Fe gyfeiriai at y rhannau arddunol ohoni, â barn o'i eiddo'i hun, ac âg ymadroddion cyfaddas, a brofai ei gydnabyddiaeth â'r celfau cain. Fe ymddengys ei arlwyddiaeth yn wr oddeutu trigain oed, tra agored a hawdd dynesu ato, hoffus ei ddull a choethedig ei ddefodau.. . . .
"Tref fechan yw Bangor, ond un o'r rhai clysaf, ac, yn sicr, un o'r rhai glanaf ymhlith trefi Gogledd Cymru i gyd. . . . . Yn union wedi gadael Bangor am Gapel Curig aethum