2. Mi gefais ganiatad i ddefnyddio Cofnodion y Cyfarfod Misol. Yr oeddynt yn ymestyn yn ol i 1842, ond à llawer iawn. o fylchau ynddynt, sef eu bod heb eu cadw am oddeutu'r naill hanner neu lai o fisoedd y flwyddyn dros ystod cryn nifer of flynyddoedd. Mi a'u defnyddiais fel y ceir hwy yn y Goleuad o ddechre ei gyhoeddi, sef diwedd Hydref, 1869. Fe gyhoeddwyd y Cofnodion nad ydynt yn y Cofnod-lyfr yn achlysurol iawn yn y Drysorfa, a dechreuwyd ymhellach yn ol nag amseriad y Cofnod-lyfr. Mae'r hen Gofnod-lyfr yn cynnwys rhestrau pregethwyr ynghyda'r amser y dechreuasant bregethu, a rhai rhestrau eraill, a fu o gynorthwy nid bychan i mi. Fe greffir fod y cofnodion am ystod pedwar ugain mlynedd neu ragor heb fod ar gael. Fe'u cadwyd gan John Robert Jones (Bangor) a Michael Roberts a John Roberts (Llangwm wedi hynny), ac eraill, mae'n ddiau, o flaen hynny. Gan olygu fod pwys dirfawr yn perthyn i'r hen gofnodion hynny, mi ohebais à theuluoedd y bobl a nodwyd yn eu cylch, canys yng nghadwraeth y teuluoedd y gadawyd hwy. Benthyciodd y Dr. Owen Thomas gan y teulu, pan ydoedd yn sgrifennu Cofiant John Jones, y Cofnodion a gadwyd gan John Robert Jones. Mi gefais fod y Parch. T. Gwynedd Roberts wedi bod yn ymholi am y rhai hyn o'm blaen. Fe ymddengys y dywedai'r Dr. Owen Thomas ddarfod iddo, "yn sicr," eu danfon yn ol i'r teulu. Dywedai'r teulu, sef mab a merch yn preswylio ym Mhenrhyndeudraeth, na dderbyniasant monynt. Yr oedd y naill blaid cystal a'r llall uwchlaw eu hameu. Dichon i'r Dr. Owen Thomas eu rhoi yng ngofal rhywun, ond na throsglwyddwyd hwy. Mi ohebais yn eu cylch yn ofer, nid yn unig â theuluoedd y naill a'r llall, ond, hefyd, a llyfrgellydd y Bala, lle danfonwyd corff llyfrau'r Dr. Owen Thomas, ac â Young y llyfrwerthydd yn Nerpwl a bwrcasodd gyfran helaeth o lyfrau'r Dr. cyn ei farw ef. Fe'm sicrheid gan Young, er cydnabod ei hawl ef i'r llyfr, na chafodd efe ddim ar fath yr hyn a ddisgrifid gennyf. Yn ofer y gohebwyd, hefyd, â theulu Michael Roberts.
3. Mi gefais ganiatad i ddefnyddio adroddiadau Ymwelwyr Canmlwyddiant yr Ysgolion Sul, a oedd ynghadw yng nghist y Cyfarfod Misol.
4. E fu Ystadegau'r Cyfarfod Misol o 1853 ymlaen yn dra gwasanaethgar i mi. Mi gywirais liaws o bethau â'u cymorth,