Mae'r Beibl gennyf, syr.' 'A wnewch chi adael i mi ei weled?'. . . . . Wedi agor y llyfr y geiriau cyntaf y disgynnodd fy llygad arnynt ydoedd,—Gad i mi fyned drwy dy dir. 'Gallaf fi ddywedyd y geiriau hyn,' ebr fi, gan ddangos y fan â'm bys,—' Gad i mi fyned drwy dy dir.' . . . . Mi a ddychwelais llyfr i'r wraig garedig, ac wedi canu yn iach iddi, mi a ymadewais, ac aethum drwy rai milltiroedd o wlad arddunol o goed a chreigiau a mynyddoedd. . . . Gan droi heibio ystlys ogleddol y Siabod gadarn mi gyrhaeddais yn fuan bentref y Capel Curig, a saif mewn dyffryn rhwng dau fryn, y Foel Siabod grybwylledig yn fwyaf union i'r dwyrain o'r ddau. Wedi cerdded bellach ryw ugain milltir ar ddiwrnod a oedd yn briwlio dyn, mi feddyliais ei bod yn hen bryd i mi gael rhyw luniaeth. . . . . Yr oedd gardd y gwesty yn terfynu ar lyn bychan, ac oddiyno, drwy agoriad yn y bwlch, gellir gweled yr Wyddfa yn ymgodi mewn mawreddusrwydd o fewn pellter o tua chwe milltir. Yna mi gychwynnais am Fangor, rhyw bedair milltir arddeg o Gapel Curig. Mae'r ffordd i Fangor o Gapel Curig yn agos yn union i'r gorllewin. . . . .
"Erbyn i mi ddod agos gyferbyn a chychwyn y clogwyn yma o yn agos i dri chan troedfedd o uchter mi welwn ar ystlys chwith y ffordd ddau o blant yn edrych dros y wal isel ag yr oedd bwthyn truanaidd o fewn ychydig bellter o'r tu ol iddi. Wedi dod hyd atynt mi arosais gan edrych arnynt. Bachgen a geneth oeddynt, y bachgen oddeutu deuddeg a'r eneth flwyddyn neu ragor yn ieuengach, y ddau mewn gwisg druenus ac yn edrych yn wael iawn. 'A fedrwch i Saesneg?' ebr fi, gan gyfarch y bachgen yn Gymraeg. 'Dim gair,' ebr fo, 'nid oes dim Saesneg y ffordd yma.' Beth yw enw'r fangre hon?' 'Helyg ydi enw'n ty ni.' 'A pheth yw enw'r bryn yna?' ebr fi, gan gyfeirio at y dibyn. 'Allt y Gog,' ebr fo. "A oes genych dad a mam?' Oes.' 'A ydynt yn y tŷ?' 'Mae nhw wedi mynd i Gapel Curig.' 'A'ch gadael chwithau yma ar eich pennau eich hunain?' 'Ie, efo'r gath a'r weiren dri-chôr.' 'A ydyw eich tad a'ch mam yn gwneud gwaith weirio?' 'Ydyn, wrth hynny y mae nhw'n byw.' 'Gwaith weirio beth ydyw?' 'Weirio cloddiau.' 'A fyddwch i'n helpio'ch tad a'ch mam?' 'Byddwn, oreu allwn i.' 'Yr ydych yn edrych yn wael ill dau.' 'Mi gawson y cryd ychydig yn ol.' A oes yma lawer o'r cryd y ffordd yma?' 'Oes, digon.' 'A