ydych yn cael digon i fwyta?' 'Os cawn i fara, mi fyddwn yn cael digon.' 'Os rho'i geiniog i chwi, ddowch i a thipyn o ddwr i mi?' 'Down, os rhowchi geiniog inni neu beidio. Tyd, chwaer, gadwch inni ystyn dwr i'r gwr byneddig.' Nhwy redasant i'r tŷ, gan ddychwelyd yn y man, a'r eneth yn dwyn dysglaid o ddwr. Wedi yfed, mi roddais bob i geiniog i'r plant, a chefais ddiolch gan bob un. A fedr un ohonoch ddarllen?' 'Na fedrwn.' 'A fedr eich tad a'ch mam ddarllen?' 'Fedr y nhad ddim, mi fedr y mam dipyn.' 'A oes yna lyfrau yn y tý?' 'Nac oes.' 'Dim Beibl?' 'Does yna ddim un llyfr.' Fyddwch i'n mynd i'r eglwys?' 'Na fyddwn.' 'I'r capel, ynte?' 'Ar dywydd braf.' 'A ydych yn ddedwydd?' 'Pan fydd yna fara yn y tŷ a dim cryd, mi fyddwn.' 'Yn iach i chwi, blant.' 'Yn iach i chitha, wr byneddig.' 'Mi rwyf wedi dysgu rhywbeth am fuchedd a theimlad yn y bwthyn Cymreig oddiwrth y plentyn tlawd a gwael yna,' ebr fi wrthyf fy hun.
"Yr oeddwn wedi myned heibio i'r cyntaf a'r ail o'r bryniau ar y chwith, a mynydd hir, enfawr, gyferbyn a'r ddau ar y dde, pan y daeth gwr ieuanc i lawr llwybr cul ar fy chwith, gan gerdded ymlaen i'r un cyfeiriad a minnau. Yr oedd wedi ei wisgo mewn côt a llodrau melfared, ac yn edrych ychydig yn uwch ei gyflwr na llafurwr. Mi ysgydwodd ei ben a gwnaeth guwch pan siaredais wrtho yn Saesneg, ond gwenodd pan siaredais yn y Gymraeg, ac ebr fo,—' O, yr ydych yn siarad Cymraeg: wyddwn i ddim y medrai Sais yn y byd siarad Cymraeg.' Mi ofynais iddo a ydoedd yn myned ymhell. 'Rhyw bedair milltir,' ebr fo. Ar ffordd Fangor?' 'Ie,' ebr fo, i lawr ffordd Fangor.' Mi ddeallais wrtho mai saer coed ydoedd, ac iddo fod i fyny'r llwybr crybwylledig i weled cydnabod—ei gariad nid hwyrach. . . . . Yr ydoedd yn siriol iawn, ac yn mynegi hyfrydwch dirfawr mewn bod wedi dod o hyd i Sais yn medru Cymraeg. Mi fydd yn rhywbeth i siarad amdano,' ebr fo, 'am weddill oes.' Aeth i mewn i ddau neu dri o dyddynod ar ochr y ffordd, a phob tro y deuai allan mi a'i clywn yn dywedyd, —'Rydw'i efo Sais sy'n medru siarad Cymraeg. . . . Yr oedd yr haul yn machlud pan ddaethom i bentref bychan yng ngwaelod y bwlch. Mi ofynnais i'm cydymaith am yr enw. 'Ty'nymaes,' ebr yntau, gan chwanegu, fel y safai ger gwydd bwthyn bychan, mai dyna'i breswylfod, ac nad ydoedd yn