waith yn y Cathedral; ond yr oeddwn mor anghyfforddus oherwydd y dorf o ymwthwyr, fel y penderfynais fyned ymlaen ar fy nhaith heb oedi; gan fwriadu, pa wedd bynnag, fyned i'r eglwys gyntaf y cyfarfyddwn â hi ar y ffordd, y cynhelid gwasanaeth ynddi. Canys nid da mewn gwirionedd yw teithio ar y Sulgwaith heb droi i mewn i ryw le o addoliad.
"Yr oedd yn ddiwrnod tesog ac yn ffyrniglym o boeth, megis ag yr oedd y diwrnodiau i gyd yn ddiweddar. Mewn oddeutu awr mi gyrhaeddais Porth Dyn Norwig; yr ydoedd ar ochr ddehau'r ffordd. Yr oedd enw'r lle hwn, a glywais gan y gyriedydd a'm hebryngodd i a'm teulu i Gaernarvon a Llanberis ychydig ddyddiau cynt, wedi ennyn fy nghywreinrwydd, ac felly mi droais ar neilltu i'w edrych. Yn ddiau, ebr fi wrthyf fy hun, mae gwreiddyn yr enw mewn fod y morladron Daniaidd a'r Norwegiaid wedi ymweled â'r fan yn yr hen amseroedd. [Beth am Borth Dinas Orwig, ô Borrow?] Mae'r porth yn gynwysedig o gilfach a chei a rhyw gant o dai; a rhyw ychydig longau yn gorwedd wrth y cei. [Chwech o dai oedd yma yn 1808, ebe Mr. R. Roberts, Y.H., ger Caernarvon, ar ol ei fam a oedd yma yn eneth fechan ar y pryd.]... Aethum i stafell lle'r oedd rhyw chwech neu saith o ddynion yn yfed ac yn siarad yn drystiog yn y Gymraeg. Yr oedd yr ymddiddan am y neidr fôr. . . . 'Gadewch inni ofyn barn y gwr boneddig yma.' 'Nid oes gennym ni ond Cymraeg ac yntau Saesneg,' ebr un arall. 'Mae gennyf ychydig Gymraeg toredig at eich gwasanaeth, foneddigion,' ebr fi.
'Fe welwyd y neidr för yn y parthau hyn.' 'Pa bryd oedd hynny, wr boneddig?' ebr un o'r cwmni. 'Oddeutu hanner can mlynedd yn ol,' ebr fi. [Fe grynhoir oddiyma ymlaen.] Fel yr oedd llong fechan yn hwylio yn araf ar y Fenai dyma'r fôr-neidr drwy dwll coes y llyw, gan dorchi ei hunan ar fwrdd y llong o dan y mast. Yr oedd y dynion ar y cyntaf wedi dychryn yn enbyd, ond gan gymeryd calon gyrasant hi yn ol i'r môr â rhwyf. Fe gododd awel ar hynny a chollwyd golwg arni.' 'Cof gennyf, erbyn i chwi sôn,' ebr henwr oedd yno, 'i mi glywed yr hanes pan yn hogyn. Robert Ellis oedd enw'r llong. A ydych o'r parthau hyn, wr boneddig?' 'Nid wyf o'r parthau hyn,' ebr fi. Yr wyf yn un o hâd y sarff dorchog, canys felly y geilw un o hen feirdd Cymru y Saeson.' [Yr oedd Borrow yn Gernywig ar ochr ei dad.] 'Ond pa fodd y dysgasoch Gymraeg?' gofyn-