nai'r henwr. Wrth y gramadeg,' ebr fi. 'Peth gwych yw bod yn ramadegwr,' ebr yr henwr; a sylwais fod pawb yno bellach yn fy nal mewn rhyw barchedigaeth. Ni wyddai neb yno. pam y gelwid y lle yn borth y Norwegiaid; ond dywedent y gelwid ef, hefyd, yn Felin heli, ac y cludid llechi oddiyno o'r chwarelau gerllaw. Mae Porth Dyn Norwig yn un o'r lleoedd mwyaf trwyadl Gymreig a welais, canys yn ystod yr amser y bum yno ni chlywais air o Saesneg. Mewn oddeutu awr mi gyrhaeddais Gaernarvon." Hyd yma George Borrow.
Fe gyhoeddwyd llyfr Roscoe yn 1853, fel y sylwyd, a dywed ef y pryd hwnnw y cludid ymaith filoedd o dunelli o greigiau'r Penmaen yn flynyddol er gwastatu ffyrdd. Mae darnau anferth o'r ddau glogwyn wedi eu dwyn ymaith bellach, yn enwedig o'r mwyaf o'r ddau, ac yr ydys wedi digoroni eu corynnau. Mae Sionyn lladd cewri wedi neilltuo'r hen Benmaenmawr i'w ffyrnigrwydd eithaf, ac â'i big blaenllym wedi tyllu'n ddwfn i mewn i benglogau'r ddau gawr. Wele gŵyn Hiraethog am yr alanas:
Esgyna ugeiniau bob bore i'th nen,
Ebilliant a thyllant d' arleisiau; . . .
Agorant ffordd lydan o'r naill ben i'r llall
I yrru'r cerbydau drwy'i galon. . .
Ow'r hen Benmaenmawr !
A'r Penmaen bach druan . . .
O'w ! ow'r Penmaenbach!
Dy fain cysegredig a werthant drwy drais,
I'w gosod ar wyneb heolydd . . .
Ow'r hen Benmaenmawr!
Mae'n chwith gennyt feddwl, yr hen Benmaenmawr,
Wrth weld fel mae'r byd yn cyfnewid,
Mor hynod wahanol yw dynion yn awr
Onide'r Penmaenmawr?
Fe gyfleir yma ychydig gyffyrddiadau, wedi eu dodi ynghyd wrth ei gilydd, yn dwyn perthynas â'r rhanbarth yma yn neilltuol, oddieithr fymryn at ddiwedd y dyfyniad, allan o Wibdaith Edward Matthews: "Cyrhaeddasom Fangor Uchaf. Ar ein cyfer dacw dref Beaumaris yn eistedd fel brenhines, ac yn pre-