a chyflenwais yr hanes yn fawr. Yn nechreu'r flwyddyn y deuent allan ar y cyntaf am rai blynyddoedd; ar y diwedd wedi hynny. Ni welais monynt i gyd. Nid oedd Ystadegau 1853 gennyf hyd ar ol sgrifennu'r drydedd gyfrol. Daethant allan ar ffurf llenni hyd 1873, a benthyclais y rhan fwyaf o'r rheiny gan Mr. Evan J. Roberts Cwmyglo. Benthyciais restr 1874-94 gan y Parch. T. Gwynedd Roberts, a'r rhestr o 1853 ymlaen, ond â bylchau, gan Mr. John Humphreys yr Waunfawr. Nis gwn ai yn 1853 y dechreuwyd eu cyhoeddi.
5. Yn 1907 fe gyhoeddwyd Adroddiad y Parch. Ellis James Jones ymherthynas âg eglwysi'r Cyfundeb yn y Sir a gyflwynwyd ganddo o flaen y Welsh Church Commission. Mae ynddo golofn yn rhoi blwyddyn sefydlu pob eglwys, yn ddigon manwl i'r amcan neilltuol mewn golwg ar y pryd. Mi wnaethum yr ymchwil hwn drosof fy hun, mor bell ag yr oedd Arfon yn y cyfrif, â hamdden blynyddoedd ac â ffynonhellau yn agored i mi nas gallesid disgwyl i neb ymgynghori â hwy ond i'r amcan o sgrifennu hanes llawn o'r eglwysi.
6. Mi fenthyciais Ddyddiaduron (ond âg amryw fylchau), yn cynnwys nodiadau, y Parch. Robert Ellis, Ysgoldy, gan ei ferch, Mrs. J. O. Jones. Heblaw'r dyfyniadau ohonynt, mae ôl y nodiadau ar amryw bethau gennyf, yn fwyaf neilltuol yn hanes yr eglwysi yr ymwelai Robert Ellis â hwy. Yn y nodiadau coffa am bregethwyr ac yn y rhestrau ohonynt yn y Dyddiadur y cefais i yn fynych yr amseriadau a roir yn hanes pre- gethwyr. Drwy gyfrwng y Dyddiadur, hefyd, gan amlaf, yr olrheiniwyd symudiadau pregethwyr o'r naill Gyfarfod Misol i'r llall, a phrofodd yn unig gyfrwng gwybodaeth am rai pethau achlysurol eraill. Mae sylw cyffelyb yn wir am y Blwyddiadur wedi ei gychwyn yn 1898.
7. Bu rhestrau'r pregethwyr ynghyda'r amseriadau yn y Gymdeithasfa, o waith Edward Jones Bangor, yn wasanaethgar nifer o weithiau.
8. Mi gefais gymorth o'r Drysorfa Ysbrydol, 1799-1827; a Goleuad Gwynedd, 1818-30; ac, yn arbennig, y Drysorfa, 1831 ymlaen. Hefyd, yn y Traethodydd, 1845 ymlaen; y Beirniad, 1860-79; y Geninen, 1883 ymlaen; Cymru, 1891 ymlaen; ac yn y Goleuad, yn arbennig, dros ei dymor, sef o ddiwedd