yr ymddiriedwyd am y gwaith o ddysgu darllen Gair Duw yn Gymraeg i'r plant. Felly y bu hyd yn ddiweddar. Pumpunt oedd y llôg, ac ac punt am lyfrau a'r pedair punt arall i'r athro. Bu'r arian yn hir ar dollborth Tafarn y Grisiau, ond rhoddwyd hwy gan y plwy at yr ysgol wladwriaethol. Gweled yr oeddid fod yr Eglwys, y Calfiniaid a'r Wesleyaid ynghyd yn cyflawni'r diffyg. Ond am y Catecis nid oedd neb yn erbyn hwnnw, ond y collid amser y plant wrth ei arfer beunydd, a'r amser hwnnw'n fyrr eisus. Ni ddysgid unrhyw ddefodau i'r plant. Nid oedd yma ymraniad, gan na wyddai neb am uchel-eglwyswyr, fel y gelwid hwy. Nid oeddynt [sef y clochydd] yn credu ail-enedigaeth yn y bedydd. Canys byddent yn dysgu'r catecis i'r plant, a'r person yn eu harolygu cyn myned ohonynt at yr esgob o gylch 14 oed. Byddai'r plant yn dweyd,—Gan ein bod ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, drwy fedydd y'n gwneir ni'n blant gras.' Nid drwy fedydd y'n gwnaed ni' bedair blynedd ar ddeg yn ol. Canys yr oeddynt yn gwybod am dri amser y ferf yn dda [wedi i mi'r clochydd eu gwreiddio yn hynny]. Amser gorffennol fuasai,—Drwy fedydd y'n gwnaed ni'; amser dyfodol fuasai,—Drwy fedydd y'n gwneir ni,' a sicr hynny ond cadw'r amodau.
Cof gan yr ysgrifennydd weled dau lyfr corn y Dr. Jones. Yr oeddynt yn rhyw bum modfedd wrth bedair a gwaith gof arnynt. Corn tebyg i gorn lantar ydoedd wedi ei losgi fel y gwna'r ffarmwr ar gyrn ei ddefaid, yn ol fy meddwl i. [Rhaid bod y llyfrau hyn yn hen iawn. Y llyfr corn mewn arfer gyffredin tua 150 o flynyddoedd yn ol oedd ar bapur o fewn ffram bren cymaint â llaw plentyn, a'r darn corn dros y papyr o fewn y ffrâm.]
"Yn 1786 daeth yma ddynes o Iorc, a deuai yma at ei theulu bob haf. Cadwodd ysgol Sul yma yn nhafarn Pen y bont. Hi fu'n cadw'r ysgol am dair blynedd, ond nid i ddim budd am mai Saesnes ydoedd. Adwaenwn hen wr a fu yn ei hysgol, ac yr ydoedd wedi dysgu'r a, b yn Saesneg, ond nid oedd yn deall dim. [Ond nolff ydoedd yntau, gan nad yw'r a, b yn Saesneg mor llwyr annhebyg a hynny i'r Gymraeg, yr hen glochydd!] "Yn y 83 flwyddyn i'r eleni [ond pa bryd oedd eleni?] daeth gwehydd i fyw i'r Cowrtia, sef Michael Roberts. Yr oedd ganddo gefnder yn ardal Pwllheli o'r un enw, ac yn bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Bu hwnnw a'i wraig yn