cadw ysgol Sul yma yn Nhyddyn y Taldir, yn ysgubor John Evans. Buont yn ymdrechu efo hi am dair blynedd, ond methu ganddynt gael cynorthwywyr, er fod digon o ddarllenwyr yn yr ardal. Dyna'r drwg yma'n wastad. Fe symudodd i'r pen arall i'r plwy, sef i Ben yr allt isa, ac nis gwn ddim neilltuol am dano mwy. [Tebyg y bu dyfodiad Michael Roberts yma ymhen ychydig flynyddoedd ar ol 1785, sef blwyddyn sefydlu'r Ysgol Sul yng Nghymru.]
"Yna ni bu yma dreial ar yr Ysgol Sul nes i Forus Jones a'i gyfeillion ddod yma. Hwy aethant at y Dr. Richard Gruffydd [Rheithor Aber ar y pryd. M.T.] i weled a gaent gadw ysgol yn yr eglwys. Dywedodd y boneddwr ei fod yn falch o'i galon eu gweled, nad oedd i'r amcan hwnnw yn y plwy ond yr arian a roes y Dr. Jones, ac nad hanner digon hynny. Cawsant swper ganddo a gwydriad o gwrw bob un, a dywedodd wrthynt am aros hyd yr ail Sadwrn, gael iddo ymddiddan â'r esgob, ac y caent wybod wedyn. Felly fu, ac aethant ato drachefn. Gwnaeth yntau swper llawen iddynt fel o'r blaen, a dywedyd fod yn ddrwg gan ei galon eu hysbysu fod yr esgob yn ei rybuddio os gollyngid hwy i'n eglwys y diswyddid yntau am dri mis. 'Wel, dyna hi wedi darfod arnom, frodyr,' ebe Evan Richard [sef un o'r cyfeillion]. Be haru ti, ddyn llwfr [sef ateb y Dr. R. G.], pa fodd yr aethet ti o flaen Herod a'r rhaglawiaid? Na, ymwrolwch, ddynion; ceisiwch ryw hen dŷ yn y pentre a recordiwch o, a chynghorwch cystal ag y gellwch. Mi ysgrifenais i er ceisio codi Cymdeithas y Beiblau, a ches rybudd y diswyddid fi am ddwy flynedd gan yr esgob. Mi welais fod y Marcwis [sef ef o Waterloo. M. T.] yn dod i Lundain o'r Cyfandir. Aethum ato. Ni fuom yn yr athrofa efo'i gilydd ac yr oeddym yn gyfeillion. Be rwyti yn wneud yma, Dic bach,' medda fo. 'Yn wir, my Lord,' ebe fi, ' rwyf yn bur wael ers tro ac yn methu cysgu, a byddaf yn myfyrio'r nos, ac yn gweld y Beibl mor ddrud nad oes bosibl i ddyn cyffredin ei gael, a chlo arnynt i gyd yn yr eglwysi rhag lladrata eu dalennau. [Cedwid yr hen Feibl llythyren flewog wrth y gadwen gynt yn yr eglwysi; ac yr oedd gwerth ariannol ar y dalennau rhagarweiniol yn arbennig.] Credu yr wyf pe baent yn rhad i'r bobl gyffredin eu darllen, y cai'r llywodraeth fwy o ffyddlondeb a'r bobl eu hunain well siawns am fywyd tragwyddol.' 'Rwyt yn dy le, Dic,' ebe'r Marcwis, 'ac rwyf yn meddwl pe codem ni