Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/85

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Meddai ar awdurdod dull cystal a thynerwch caruaidd, a fuasai, o ran y nodweddion hynny, yn ei chymhwyso yn ben. athrawes mewn ysgol o'r bwysicaf. Hi feddai, hefyd, ar gymeriad dilychwin, ac arferion crefyddol cyson, er yn llawen ac agored ei dull. Eglwyswraig ydoedd, ond yn gwbl ddiragfarn ei theimlad. Dichon na chymhwysodd mohoni ei hun ar ddechre ei gyrfa ar gyfer bod yn athrawes. Yr ydoedd, yn ddiau, yn enghraifft o un o alluoedd naturiol anarferol ac amrywiol, ac o gryn goethter llenyddol, a chyfaddaster arbennig i waith ei swydd, eto wedi ei gwthio i gylch cyfyng a neilltuedig. Ni wyddis nad oedd yn eithaf boddlon ar hynny, ac i bob golwg yr ydoedd felly.

"Hi feddai ar ddawn addysgu briodol iddi ei hun. Mi a'i gwelais yn dwyn oraits gyda hi i'r ysgol, a dangos nad oedd y croen ond un dernyn, a'i fod yn cau wrth ei gilydd yn y man lle cydiai wrth y brigyn. Yna agor yr oraits a dangos fel yr oedd yn ddau hanner, a phob i hanner, drachefn, yn cynnwys pump o boteli gwin, fel y galwai hi hwy-pump, sef yr un nifer ag sydd o fysedd ar bob llaw. A'r poteli gwin yn llawn gwin o'r melysaf. Yr oedd dannedd y plant yn dyfrio. Hi eglurai, hefyd, fod coeden oraits ym mhob un o'r hadau, a bod y tylwyth teg yn lledu'r goeden allan o'r hedyn, ac yn gwlychu'r gwraidd efo'r gwin o'r poteli. Y plant lleiaf yn codi eu hwynebau ar gyfer y nenfwd ar hynny. Yna rhoddi pob i botel win i'r plant lleiaf, a dyna win oedd hwnnw heb ddim o flas y faril arno!

"Dro arall hi ddaeth â'r llyfr corn i'r ysgol. Bu hwnnw gan ei hen nain hi pan yn blentyn ysgol. Rhyw fymryn ffrâm bren cymaint a thribys ydoedd, a mymryn coes wrtho yn un darn âg ef er ymaflyd ynddo; a phapur â'r wers arno o fewn y ffrâm, a darn corn drosto, y fath a welir mewn lantern gorn, i'w gadw rhag diwyno. Yr oedd yr a, b yn argraffedig ar y papur yn fras a mân, ac yna'r rhifnodau, ac yna Gweddi'r Arglwydd. Yr oedd y criss-cross neu'r Gris-groes o flaen yr a, b, er dangos, meddai hi, nad oedd unrhyw blentyn i fynnu. ei ffordd ei hun, os am ddysgu'r a, b. A dywedai na ddysgid. dim yn iawn heb fyned dan y Groes. Hi soniai am un a esgeulusodd ei wers, mai dyna ei gyffes:

Pawb yn y nghymryd yn sgorn
Heb fedru mo'm Llyfr corn.