Bu Syr Henry Jones yn y Coleg Normalaidd am ddwy flynedd yn ystod 1870-2 (Old Memories, t. 94 ymlaen). Canmola ef John Thomas, yr athro mewn mesuroniaeth, fel ym. mhob ffordd yn wr rhagorol yn ei waith. Yr ydoedd yn amyneddgar, yn drefnus, yn onest, yn drylwyr. Ar ol yr addysg honno ni bu gwaith Syr Henry Jones mewn mesuroniaeth er ennill gradd ond cymharol hawdd. Ni chanmola'r efrydiaeth
mewn Saesneg, hanesiaeth, etc." Nid oedd dull yr addysg yn y pynciau hynny ond cram,' sef gwthio pelennau ymborth i lawr y corn gwddf, fel y disgrifiwyd y dull hwnnw yn ei wedd gyffredinol, er na sonia Syr Henry am hynny ychwaith. Fe ddengys ei hun yn eithaf anfoddlon ar y dull, pa ddelw bynnag. Nid nes myned ohono dan addysg yr Athro Nichol yn Glasgow y cafodd efe'r ddirnadaeth leiaf am pa beth a feddylid wrth lenyddiaeth Saesneg. Yr oeddid yr un pryd ym Mangor yn darllen drama Iwl Caisar eiddo Shakspere, gan ddosrannu pob dernyn ynghydag olrhain y treigl gramadegol ac aralleirio, a dysgu'r rhan fwyaf ar dafod leferydd. Ond cwynir na chymhellid i ddarllen unrhyw un arall o ddramodau Shakspere nac i ymgydnabod âg unrhyw un o'r sgrifenwyr clasurol mawr yn yr iaith Seisnig. Er hynny, onid oedd bod uwchben Iwl Caisar yn y dull a nodir yn rhywbeth i ddiolch am dano, hefyd? Ni welid mo'r prifathro, sef Daniel Rowlands, ond yn y wers feiblaidd unwaith yn yr wythnos, Bu Syr Henry yn athro cynorthwyol yma am dri mis neu bedwar ar ol diweddu ei gwrs.
Fe sefydlwyd Cymdeithas Gymreigyddol ym Mangor, fel y dengys y pennawd i Englynion Cyfarch Dafydd Ddu (Corff y Gainc, t. 150, argraffiad 1834), Ionawr 17, 1810. Yr oedd hwn yn amseriad cynar. Oddeutu deng mlynedd yn ddiweddarach y blodeuodd y Cymdeithasau Cymreigyddol yn y wlad.Dyma'r englyn diweddaf o'r Cyfarch:
Ym Mangor, goror sy'n blaguro,-hon
Fo'n hynod adfywio;
Dringed uwch oerdir ango'
I barch-a phoed felly bo.