Tudalen:Hanes Methodistiaeth Arfon-Bangor.djvu/90

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Iaith berffaith odiaeth ydyw,
Un oreu oll dan awyr yw. g
Iaith fwyngu, iaith gu ar goedd,
Iaith iesin, iaith oesoedd..
Iaith ddiswyn a mwyn a mawl
Iaith iesin, iaith oesawl.
Iaith fêl, a thawel ei thôn,
Iaith dannau ac iaith dynion,
Iaith dda ar fro, iaith ddi fri,
Iaith bêr ei mwynder i mi. H

Ni chaf dan y ffurfafen
Gymar i iaith Gomer hen. G
Iaith ddoniol breiniol ei bri,
Iaith dda ar wr, iaith Eryri,
Iaith ddigus, iaith dda gyson,
Iaith Menai a Môn,
Iaith fal mêl, dawel dôn,
Iaith erfai ac iaith Arfon. H
Yn ddiball hi a ddaw yn ben
Iachus i dref Rhydychen. G
Iaith gu i Gymru ei gwên,
Iaith hoew ag iaith awen. H
Hi gerdd dros ferwawg wyrdd ddwfr
Dros y byd i gyd o'i gwrdd; . . .
Dysger ei theithi dwysgu.
A'i geiriau doeth i Negro du; .
Llafar drwy'r ddaear ydd ä
Hyd randir foroedd India; . .
Iaith olau, iaith ddilyth,
Iaith i Gymru a bery byth; .
Iaith Gomer yn fwynber a fydd,
A'r gwead yn dragywydd;
E bery hon mewn bri o hyd,
I'w chael yn ddifrycheulyd,
Tra gwelir na thir na thonn,
Na goleu haul gwiwlon,
Na ser yn seiriannu
Y ddaear, lachar lu,
Ceir hi gwedi ar goedd
Yn hoew iaith y nefoedd. G

Yn y llawysgrif mae cân wedi ei chyflwyno i un o'r cwmni, cyn ei ordeinio i'r weinidogaeth. Ni wyddis ai gan un o'r cwmni y cyfansoddwyd hi, ond tebycaf, oddiwrth ei thôn, mai gan wr hŷn na hwy, er o'r un parthau, debygir. Yr oedd hynny yn yr un tymor a'r darnau eraill. Dyma'r ddau bennill olaf: