Os byddwch yn handi am ddweyd tesni ar y'ch taith..
Cewch ownau merino a dwy ffedog siec. . .
Pan ddywedwch ryw dynged pur ffeind i ryw ferch,
Nid rhaid i chwi grefu am lond bowl o gerch;
Rhoi bagiad i'w gadw'n ddidwrw, ar ol dweyd,
Mae merched da dymer yn arfer ei wneud.
Mae gwlan beth dihafal i'w gael yn ddigwyn
Ag arian pan geisir gan fenyw go fwyn.
Nid yw ond peth bychan rhoi chweigain i chwi
Am ddweyd fod ein ffortun yn ddeucant neu dri.
Ni bydd raid i'ch boliau ddim diodde drwy'r dydd,
Canys is na Nant Brwynog rhai selog y sydd
A wneiff i chwi ddysglaid mor dwtied o dè;
Cewch grempog a leicieg, pob peth yn i le.
Mae llawer Gwen eneth a gredith yn gre
Fod posib dweyd ffortun o dîn cwpan de.
Dywedwch yn selied wrth olwg y dail—
'Rwîy'n deall, fy ngeneth, cewch wr heb ei ail. .
Nid ydi coel ffortun yn wrthun yn awr,
Ond mae'n beth cyffredin ymysg y gwŷr mawr.
Mae rhai wedi'i hethol, wrth gofio chwi gefn, [? yr ystyr]
Olynwyr John Calfin oedd ffafriol i'r drefn.
[Sef bwrw coelbren, mae'n debyg, fel y gwnelai John
Wesley yn ddiweddarach.]
Ni ddaw unrhyw enllib ar grefydd un gradd,
Rhai heb eu diarddel o'r capel a'i cadd.
Chwi gewch glandro a chonstro—os medrwch i pwy,
Nid ydwyf yn enwi un ferch yn y plwy.
|
Mae'r newyddiadur a'r cylchgrawn yn estyn ymlaen ddylanwad yr ysgol a'r gymdeithas lenyddol. Dechreuwyd cyhoeddi'r North Wales Gazette Ionawr 5, 1808, yn ol Syr Henry
yn y North Wales Chronicle, Rhagfyr 24, 1898; a daeth dan
yr enw North Wales Chronicle yn 1827; a phery o hyd. Yn
1843 y cychwynwyd y Figaro. Y golygydd ydoedd Isaac.
Harris, sef gweinidog ar ddeadell fechan wrthgiliedig o gynulleidfa'r Dr. Arthur Jones. Yr ydoedd yn gyhoeddiad dwyieithog. Fe geid ynddo ysgrifau gwawdlyd ar bersonau
ynghyd â'u lluniau yn cyfateb. Wedi trin Edeyrn ab Nudd,
bardd a breswyliai yn y ddinas, yn y dull yma, fe atebodd
yntau'n ol drwy gyhoeddi'r Anti—Figaro, a gyhoeddid yng
Nghaernarvon. Fe aeth y Figaro a'r Anti—Figaro i ymladd
â'i gilydd fel dau geiliogyn. Fe ymosodai'r Figaro yn haerllug ar urddasolion eglwysig. Tebyg mai hynny fu achos ei